Mae’r Cyngor hwn yn pryderu’n fawr am gyflwr ofnadwy arwynebau ffyrdd a phalmantau Caerdydd, ac yn nodi bod y problemau hyn yn effeithio ar rannau dinesig a gwledig o'r ddinas.
Mae’r Cyngor hwn yn nodi i'r weinyddiaeth flaenorol a arweiniwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol gyflwyno Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 3 blynedd gwerth £20 miliwn yn 2012, gan rhoi wyneb newydd ar ffyrdd a phalmantau ledled y ddinas. Fel cyferbyniad, roedd cyllideb 2015/16 yn cynnwys tua £8 miliwn ar gyfer gwelliannau priffyrdd dros y 3 blynedd nesaf, ond roedd toriadau o ran glanhau strydoedd, gwaredu chwyn a thorri glaswellt, a danseiliodd seilwaith ein dinas.
Mae'r Cyngor yn nodi erthygl y South Wales Echo dyddiedig 4 Awst 2016 a ddatgelodd restr fer o ffyrdd i gael eu hatgyweirio'r flwyddyn hon, gyda rhai wardiau ddim yn cael unrhyw waith atgyweirio o gwbl.
Mae’r Cyngor hwn felly yn gofyn i’r Cabinet ddod â chynllun seilwaith cadarn gerbron y gyllideb y flwyddyn nesaf i godi safonau ffyrdd y ddinas fel dinas ryngwladol fodern.
Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Jo Carter
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Elizabeth Clark
Dogfennau ategol: