Eitem Agenda

Cynnig 1

Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Sean Driscoll 

 

Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Michael Phillips

 

Mae'r Cyngor hwn yn nodi ei siom ynghylch y ffaith bod y Mesur Awtistiaeth wedi'i drechu'n ddiweddar yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, sef Bil a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ac a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol. Er bod y Cyngor hwn, wrth gwrs, yn cydnabod nad deddfwriaeth yn unig yw'r ateb i wella mynediad i wasanaethau ar gyfer y rhai hynny sydd ag awtistiaeth yn ein cymunedau.

 

Mae’r Cyngor hwn, felly, yn penderfynu’r canlynol:

 

·        

Gofyn i Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y Prif Weinidog ac at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn amlinellu pryder y Cyngor hwn pan gafodd y Bil hwn ei drechu'n ddiweddar, tra hefyd yn ceisio sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn dod ymlaen â'i ddeddfwriaeth ei hun ar y mater hwn.

 

·        

Gofyn i bwyllgor craffu perthnasol y cyngor hwn gynhyrchu darn o waith ar y cyd â rhanddeiliaid perthnasol, ar beth arall y gall y cyngor hwn ei wneud i gefnogi'r rhai sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghaerdydd. 

 

 

Dogfennau ategol: