Cynnig:
Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Joel Williams
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Jayne Cowan
Mae Cyngor Caerdydd yn mabwysiadu’n ffurfiol ac yn ailddatgan diffiniad yr IHRA o wrth-semitiaeth:
“Mae gwrth-semitiaeth yn ganfyddiad penodol o Iddewon, a allai gael ei fynegi fel casineb tuag at Iddewon. Mae dangosiadau corfforol a rhethregol o wrth-semitiaeth yn cael eu cyfeirio at Iddewon neu unigolion nad ydynt yn Iddewon a/neu eu heiddo, tuag at sefydliadau a chyfleusterau crefyddol y gymuned Iddewig.”