Yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 23 Mai 2019, penodwyd yr Aelodaeth a’r Cylch Gorchwyl canlynol i’r Pwyllgor hwn:
Aelodaeth:
Y Cynghorwyr Ahmed, Asghar Ali, Driscoll, Gordon, Hudson, Jacobson, Keith Jones, Jones-Pritchard, Lay a Sattar
Cylch Gorchwyl:
Y swyddogaethau hynny a restrir yn Adran A, Atodlen 1 Rheoliadau Trefniadau Gweithredol yr Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 ac unrhyw ddiwygiadau o ran hynny ac unrhyw faterion ategol hefyd fel y diffinnir yn Rheoliad 4(2) i (6) y Rheoliadau.
Y swyddogaethau hynny a restrir ym mharagraffau 1 - 12, yn Atodlen 1 i Reoliadau Trefniadau Gweithredol yr Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 ac unrhyw ddiwygiadau o ran hynny ac unrhyw faterion ategol hefyd fel y diffinnir yn Rheoliad 4(2) i (6) y Rheoliadau.