Portffolio Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth:
a) Bydd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod o'r Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yn cael ei wahodd i wneud datganiad byr ar y rhannau o’r Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd sy'n berthnasol i'w bortffolio o gyfrifoldeb.
b) Bydd swyddog o’r Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd yn rhoi cyflwyniad ar gynigion cyllideb ddrafft y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd sy'n berthnasol i'r Portffolio Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth.
c) Bydd y Cynghorydd Caro Wild a swyddogion o'r Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd ar gael i ateb cwestiynau gan Aelodau ar feysydd y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd sy'n berthnasol i'r Portffolio Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth.
Portffolio Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd
d) Bydd y Cynghorydd Michael Michael, Aelod o'r Cabinet dros Strydoedd Glan yn cael ei wahodd i wneud datganiad byr ar y rhannau o’r Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd sy'n berthnasol i'w bortffolio o gyfrifoldeb.
e) Bydd swyddog o’r Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd yn rhoi cyflwyniad ar gynigion cyllideb ddrafft y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd sy'n berthnasol i'r Portffolio Strydoedd Glan, Ailgylchu a’r Amgylchedd.
f) Bydd y Cynghorydd Michael Michael a swyddogion o'r Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd ar gael i ateb cwestiynau gan Aelodau ar feysydd y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd sy'n berthnasol i'r Portffolio Strydoedd Glan, Ailgylchu a’r Amgylchedd.