Nodi bod y Cyngor, yn ei Gyfarfod Blynyddol ar 24 Mai 2018 wedi cytuno i’r Aelodaeth a’r Cylch Gorchwyl canlynol: -
Aelodaeth
Y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies, Rodney Berman, Joe Carter, Susan Goddard, Russell Goodway, Keith Jones, Mike Jones-Pritchard, Kathryn Kelloway, Ashley Lister, Rod McKerlich, Keith Parry a Peter Wong.
Cylch Gorchwyl
Adolygu Cyfansoddiad y Cyngor, ac argymell i’r Cyngor a/neu’r Cabinet unrhyw newidiadau, heblaw y bydd gan y Pwyllgor awdurdod (yn amodol ar gyngor y Swyddog Monitro) yr awdurdod i wneud y newidiadau canlynol ar ran y Cyngor:-
(a) Drafftio gwelliannau i wella eglurder a dileu mân anghysonderau.
(b) Diweddaru er mwyn adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol a mater o gofnod.
(c) Diwygiadau i’r Rheolau Ariannol, Contractau a Gweithdrefnau Tir (yn amodol ar geisio cyngor y Swyddog A.151).