Adroddiad Cabinet Drafft - i ddilyn
Ystyried ac adolygu'r wybodaeth a’r argymhellion yn yr adroddiad drafft.
Cofnodion:
Ategodd y Cynghorydd Bridgeman fod ganddo fudd yn yr eitem hon ac ni fu’n rhan o’r drafodaeth ar yr eitem hon.
Aeth y Cynghorydd De’Ath i’w le fel Cadeirydd ar gyfer y drafodaeth hon.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet, Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Janine Nightingale (Sefydliad Penaethiaid Ysgol, Mynediad a Chynllunio) a Michele Duddridge-Hossain (Rheolwr Gweithredol, Cynllunio a Darpariaeth) i’r cyfarfod.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad a dywedodd hithau y mynegodd mwyafrif amlwg yn yr ymgynghoriad wrthwynebiad at y pellter oddi wrth ysgolion eraill a mynegwyd pryderon ynghylch plant sy’n mynd i ysgolion ffydd. Yn yr amgylchiadau hyn, yw argymhelliad yw peidio â chau'r ysgol ond gostwng maint yr ysgol a gwneud adroddiad arall wedi addasu'r cynigion.
Gwahoddwyd Aelodau i roi sylwadau, gofyn am eglurhad pellach neu holi cwestiynau ynghylch y cyflwyniad. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:
|
Clywodd Aelodau bod ymdeimlad cryf yn yr ardal ynghylch cau’r ysgol, yn arbennig ar y sail bod yr Ysgol Uwchradd eisoes wedi mynd. Dywedwyd wrth Aelodau bod angen gostwng nifer y papurau dros ben yn yr ardal a dan yr amgylchiadau, gostyngir maint yr ysgol yn un ffrwd mynediad.
|
|
Gofynnodd Aelodau a oedd fframwaith sy'n ystyried goblygiadau ehangach cau a'r amwynderau a gollid yn yr ardal. Dywedodd Swyddogion bod rhaid cynnal Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb a hefyd bod rhaid ystyried unrhyw effaith ar y gymuned fel rhan o unrhyw gynnig.
|
|
Clywodd Aelodau fod yr holl ddewisiadau dan ystyriaeth ar hyn o bryd o ran llefydd ysgol yn yr ardal.
|
|
Holodd Aelodau ynghylch sefyllfa bresennol y gyllideb yn Ysgol Gynradd Glan yr Afon o ystyried y gostyngiad yn niferoedd y disgyblion a chawsant wybod bod diffyg ar hyn o bryd ond eu bod wedi osgoi cario cyllideb ddiffygiol ymlaen.
|
|
Clywodd Aelodau bod llefydd ar ôl yn yr ysgol feithrin.
|
|
Ceisiodd Aelodau eglurhad ynghylch pa mor fodlon yw swyddogion am eu hamcan o ran niferoedd y disgyblion yn yr ardal, yn arbennig o ystyried y datblygiadau tai newydd. Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn fodlon ar y cyfrifiad a’r ffigyrau. Mae’r ffigyrau’n cynrychioli’r wybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd ac er bod rhaid bod yn hyblyg ynghylch y ffigyrau, mae'n bwysig nad oes gormod dros ben. |
CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor yn mynegi eu sylwadau a’u harsylwadau a wnaethant yn ystod y drafodaeth ar y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: