Eitem Agenda

Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 Gwasanaethau Plant

Ystyried perfformiad y Gwasanaethau Plant ar ddiwedd Chwarter 2 i adnabod unrhyw feysydd pryder neu sylwadau.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd), Claire Marchant (Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Deborah Driffield (Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaethau’r Plant) i’r cyfarfod.

 

Cafodd Aelodau gyflwyniad ar Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a oedd yn nodi prif bwyntiau’r adroddiad diwygiedig yn ogystal â’r pwysau allweddol ac ymateb y Cyfarwyddwr. 

 

Gwahoddwyd Aelodau i roi sylwadau, gofyn am eglurhad pellach neu holi cwestiynau ynghylch yr adroddiad.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  •  

Trafododd Aelodau’r model Arwyddion Diogelwch a weithredwyd yn Abertawe a Chaerdydd yn fuan yn 2016 a chlywsant fod angen newid ymarfer wrth symud ymlaen; y nod yw gweithio â theuluoedd, cymryd risgiau ac ystyried beth y gallwn ni ei wneud i helpu’r teulu yn y gymuned.  Mae’n bwysig bod amser i oedi a myfyrio cyn penderfynu mynd â phlant o’u teuluoedd.

 

 

Gofynnodd Aelodau a oes gan yr awdurdod y capasiti a’r adnoddau i fynd â hyn ymlaen a chawsant wybod bod swydd dros dro wedi ei chreu gyda nifer o flynyddoedd o brofiad a allai helpu â deall sut bydd y model yn gweithio a gallu gweithio gyda staff a theuluoedd. Er bod y fframwaith wedi ei sefydlu, bydd angen sicrhau ei fod yn gweithio'n gywir yn y dyfodol.   

 

  •  

Trafododd Aelodau’r ymgynghoriad ar ddrafft cyntaf y Strategaeth Camfanteisio ar Blant a’r ffaith y cafodd ei oedi.  Dywedodd swyddogion ei bod yn bwysig ehangu’r strategaeth, roedd yn bosibl cynnwys masnachu pobl a chamfanteisio troseddol oherwydd bod cysylltiad rhyngddynt oll. Yn gydnaws â’r ddwy ddeddf, dylid cynnwys oedolion a phlant.  Clywodd Aelodau bod gweithgor nawr yn gyrru'r strategaeth hon yn ei blaen a bod yr holl randdeiliaid nawr yn ymwneud â hi.  Bydd drafft o’r strategaeth hon ar gael ar ddechrau’r flwyddyn nesaf.

 

  •  

Roedd Aelodau’n awyddus y gael gwybod am y meddylfryd gyfoes ynghylch recriwtio a chadw staff.  Dywedodd Swyddogion ei bod yn bwysig atal cystadlu rhwng awdurdodau.  Mae angen gosod cap.  Mae’r aelodau hefyd yn ystyried nifer o ddewisiadau eraill: meithrin cysylltiadau nes â phrifysgolion er mwyn gallu cynnig lleoliadau a secondiadau; cynllun i ystyried gweithwyr cymorth cymdeithasol yn cael eu secondio ar radd Feistr; llwythi achos a ddiogelir ar gyfer y rhai sydd ym mlwyddyn gyntaf eu hymarfer, ac wrth gwrs, gobeithir y gellir cynyddu’r cynnig ariannol.  Derbynnir bod gweithio ‘wrth y drws ffrynt' yn peri llawer o straen meddwl, ond os oedd rhagor o weithwyr cymdeithasol a chynorthwywyr gwaith cymdeithasol, gellid gostwng y llwyth gwaith.

 

Clywodd Aelodau hefyd fod gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yn y gwasanaethau oedolion yn treulio misoedd yn y gwasanaeth pwynt cyswllt, sy’n rhoi sail dda iddynt cyn cael eu llwyth gwaith eu hunain ac yr ystyrir gwneud rhywbeth tebyg yng Ngwasanaethau’r Plant.  

 

Clywodd Aelodau er bod yr ychwanegiad marchnad  wedi ei ddefnyddio o’r blaen, mae’n bwysig mynd i’r afael â’r achos gwraidd, sef nid oes digon o bobl yn dod i mewn i faes Gwaith Cymdeithasol, ond mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru roi arian i’r system.  

 

  •  

Holodd Aelodau a ellid ehangu asiantaeth fewnol y Cyngor, Caerdydd ar Waith, i gynnwys swyddi Gweithwyr Cymdeithasol.  Cawsant ateb ei bod yn dal i fod draean yn rhatach cyflogi’n uniongyrchol.

 

  •  

Trafododd Aelodau’r pwysau cyllidebol yn sydyn a chawsant wybod ei bod yn bwysig buddsoddi yng Ngwasanaethau'r Plant er mwyn rhoi'r systemau angenrheidiol yn eu lle i sicrhau canlyniadau da i'r holl blant a phobl ifanc.

 

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor yn mynegi eu sylwadau a’u harsylwadau a wnaethant yn ystod y drafodaeth ar y ffordd ymlaen.

Dogfennau ategol: