Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Lyn Hudson
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Oliver Owen
Mae’r Cyngor hwn wedi ymrwymo i gefnogi dinasyddion a theuluoedd sy’n byw gyda demensia ac i wneud Caerdydd yn ddinas sy’n deall demensia gydnabyddedig, lle y gall pobl y mae demensia’n effeithio arnynt ffynnu a mwynhau bywyd yn ddiogel gan wybod bod y gymuned ehangach yn deall ac yn cefnogi eu hanghenion.
Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:
· |
Bod bod yn gyfarwydd â lleoliad a gofal yn hanfodol i lawer o bobl sy’n dioddef o ddemensia a bod canolfan dydd leol yn helpu i atal dinasyddion rhag cael eu drysu’n ddaearyddol.
|
· |
Bod canolfan dydd gyda gwasanaethau demensia’n codi ymwybyddiaeth o’r mater yn y gymuned leol.
|
· |
Bod canolfannau dydd a ariennir gan y Cyngor ar hyn o bryd wedi'u lleoli'n logistaidd yn nwyrain a gorllewin y ddinas. Nid oes unrhyw lwybrau bws uniongyrchol o wardiau mwyaf gogleddol Caerdydd i ganolfannau dydd cyfredol a gall trafnidiaeth gymunedol VEST gymryd hyd at awr mewn traffig trwm. Nid oes gan y canolfannau dydd cyfredol, er eu bod yn wych, y capasiti i fodloni’n ddigonol anghenion trigolion h?n ledled Caerdydd.
|
Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i greu canolfan dydd ar wahân a ariennir gan y Cyngor sy’n cynnig gwasanaethau demensia yng ngogledd dinas Caerdydd, lle mai dinasyddion yw'r canolbwynt mwyaf, erbyn diwedd cyfnod y Cyngor hwn yn y swydd yn 2022 a llunio amserlen ar gyfer achredu Caerdydd yn Ddinas sy’n Deall Demensia.
Dogfennau ategol: