Eitem Agenda

Adolygiad Blynyddol Teuluoedd yn Gyntaf ar gyfer 2017/18 a Chynigion Datblygu i'r Dyfodol

Ystyried a nodi adolygiad Blynyddol Teuluoedd yn Gyntaf ar gyfer 2017/18 a thrafod ac asesu'r cynigion i’r dyfodol ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet, Plant a Theuluoedd), Sarah McGill (Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau), Claire Marchant (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol) ac Angela Bourge (Rheolwr Gweithredol, Adnoddau) i’r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Hinchey i wneud datganiad, lle trafododd y gwaith da oedd yn cael ei wneud i gynnal darpariaeth i deuluoedd, er gwaetha’r diffyg cyllid.  Bydd rhagor o ddatblygiadau yn 2018-2019; mae angen dull mwy integredig.

 

Gwahoddwyd yr aelodau gan y Cadeirydd i ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau:

 

Nododd yr Aelodau bod 17.4% o'r atgyfeiriadau i Deuluoedd yn Gyntaf yn dod gan ysgolion a gwasanaethau addysg eraill.  Nododd y Swyddogion bod staff ar gael mewn ysgolion i roi cyngor a chanllawiau, a bod y Swyddogion Ymgysylltiad Teuluol a’r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd hefyd yn cynnig cyngor a chanllawiau.  Mae Rhaglen Rhainta Addysg hefyd yn cael ei sefydlu.  Mae staff hefyd yn derbyn hyfforddiant.

 

Trafododd yr Aelodau’r trosglwyddiad o Gweithredu Dros Blant i Deuluoedd yn Gyntaf, a nododd y Swyddogion bod llawer o heriau ynghylch nifer y sefydliadau oedd ynghlwm, roedd wedi bod yn anodd iawn i deuluoedd a swyddogion i reoli'r llwybrau i mewn ac allan.  Roedd anawsterau o ran trosglwyddo staff, a phenderfynodd rhai eu bod eisiau gadael gan fod ganddynt ddisgwyliadau gwahanol ac nid oeddent eisiau gweithio i sefydliad gwahanol.  Roedd rheoli swyddi gwag a lefelau gwasanaeth hefyd wedi bod yn heriol.  Cafodd lefel y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig eu haddasu yn ogystal ag ystod y rhaglenni, mae staff wedi bod yn ystyriol o'r effaith ar deuluoedd sy'n defnyddio Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg.

 

Holodd yr Aelodau am y cymorth LHDT yn Teuluoedd yn Gyntaf, o ystyried bod y ffigyrau’n isel iawn a chawsant wybod bod carfan o unigolion nad oedd yn defnyddio’r cymorth, mae’n ymwneud â hygyrchedd ac weithiau nid oedd y gwasanaethau'n weladwy.  Roedd angen targedu'r cynrychiolaeth isel ymhlith rhai grwpiau ac ymgysylltu â’r grwpiau hynny.

 

Nododd yr Aelodau bod graddfa uwch o atgyfeiriadau mewn teuluoedd gyda phroblemau Iechyd Meddwl, plant a rhieni.  Er nad ydynt wastad yn bodloni’r drothwy ar gyfer Gwasanaethau Plant neu Oedolion, mae eu hanghenion yn gymhleth.  Atgoffwyd yr Aelodau bod y Gwasanaethau Iechyd Meddwl wedi cael buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru.  

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y ffeithluniau a diffyg y niferoedd gwaelodlin gwirioneddol oedd yn rhai ohonynt.  Nododd y Swyddogion bod modd eu darparu nhw.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y Ffordd Ymlaen.

 

Dogfennau ategol: