Cynigiwyd gan: Y cynghorydd Jayne Cowan
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd John Lancaster
Mae Rheoli Gwastraff yn adran sydd wedi derbyn nifer o gwynion gan Gynghorwyr ac Aelodau’r Cyhoedd dros y blynyddoedd diwethaf.
Rydym yn galw ar y Cabinet i:
Egluro pam y mae’n amhosibl rhoi manylion i Gynghorwyr ynghylch costau'r teithiau i gasglu sbwriel a fethwyd yn ystod y casgliadau arferol.
Rhoi contract y tu allan i oriau (ar sail rota) ar waith i fynd i’r afael â chwynion fel y’u derbynnir gyda’r bwriad o osgoi costau dychwelyd i gasglu biniau/bagiau a fethwyd ar ddiwrnod arall, a thrwy hyn wella’r gwasanaethau i’r cyhoedd.
Gwella cyfraddau casglu trwy ymgysylltu â phreswylwyr mewn strydoedd lle bu’r casgliadau’n gyson anodd, er mwyn gwella mynediad ar yfer y loris sbwriel.
Archwilio ffyrdd o sicrhau bod casglwyr sbwriel yn clirio baw ci os ydynt yn ei weld ar eu hynt, sydd, fel rydym yn deall, yn rhan o'u cyfrifoldebau.
Dod ag adroddiad gerbron y Cyngor erbyn diwedd 2018 gyda chynigion i ostwng costau a gwneud y gwasanaeth y fwy effeithlon. Dylai’r adroddiad archwilio’r holl opsiynau er mwyn canfod y dull mwyaf effeithlon o gasglu gwastraff gan gynnal darpariaeth gwasanaeth dda. Byddai hyn yn cynnwys ymchwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio contractau allanol.
Mae’n rhaid hefyd i’r adroddiad ystyried y lefelau uchel parhaus o absenoldeb salwch yn yr adran rheoli gwastraff ac egluro pa fesurau a weithredir i fynd i'r afael â'r broblem.