Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr yr adroddiad heb eu newid.
2. Yn dibynnu ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, cymeradwyo‘r cynnig i ymestyn yr ystod oedran yn Greenhill o 11 - 16 i 11 - 19 (mae angen penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wneud hyn)
3. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu Ysgol yr Forwyn Fair: cynnwys adeiladau CAA yng nghynllun Band B ar gyfer adeiladau newydd Ysgol y Forwyn Fair.
4. awdurdodi swyddogion i gymryd camau priodol i weithredu'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr adroddiad.
5. awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r penderfyniad ymhen 7 diwrnod ar ôl penderfynu ar y cynnig.
6. dirprwyo gwaith cymeradwyo unrhyw gontractau angenrheidiol i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, wedi ymgynghori â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Aelodau Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad ac Addysg a Sgiliau.
Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd Bradbury fuddiant personol fel Llywodraethwr yn Ysgol T? Gwyn
Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn rhoi gwybod nad oes unrhyw wrthwynebiadau i’r hysbysiadau statudol sy’n ymwneud â chynigion i gynyddu darpariaeth arbenigol i blant a phobl ifanc wedi’u derbyn. Byddai’r cynigion yn helpu i fynd i’r afael ag anghenion digonolrwydd ADY a ragfynegwyd yn 2018-21, gan sicrhau y bydd plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad at addysg o safon mewn ysgolion arbennig neu ganolfannau adnoddau arbenigol yng Nghaerdydd, yn y sectorau cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr adroddiad heb eu newid.
2. Yn dibynnu ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, cymeradwyo‘r cynnig i estyn yr ystod oedran yn Greenhill o 11 - 16 i 11 - 19 (mae angen penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wneud hyn)
3. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu Ysgol yr Forwyn Fair: cynnwys adeiladau CAA yng nghynllun Band B ar gyfer adeiladau newydd Ysgol y Forwyn Fair.
4. Awdurdodi swyddogion i gymryd camau priodol i weithredu'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr adroddiad.
5. Awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r penderfyniad ymhen 7 diwrnod ar ôl penderfynu ar y cynnig.
6. Cymeradwyo unrhyw gontractau angenrheidiol i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, wedi ymgynghori â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Aelodau Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad ac Addysg a Sgiliau.
Dogfennau ategol: