Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo Caerdydd fel Awdurdod Lleol Gweithredwr Cynnar ar gyfer y cynnig gofal plant 30 awr.
2. cymeradwyo’r rhesymeg a nodir ym mharagraffau 17-24 o’r adroddiad fel y dull cytunedig i adnabod y wardiau fydd yn cael y cynnig, wrth i gyllid ddod ar gael;
dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Addysg i weithredu cynnig y rhesymeg a nodir ym mharagraffau 17-24 o’r adroddiad
Cofnodion:
Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn amlinellu cynnig gofal plant 30 awr Llywodraeth Cymru ar gyfer plant 3 a 4 oed. Cynigiwyd bod Caerdydd yn dod yr Awdurdod Lleol cyntaf i weithredu’r cynnig yn gynnar ac amlinellodd yr adroddiad fanylion dull arfaethedig a rhesymeg dros flaenoriaeth wardiau o ran rhoi’r cynnig ar waith ledled Caerdydd.
PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo Caerdydd fel Awdurdod Lleol a fydd yn gweithredu’r cynnig gofal plant 30 awr yn gynnar.
2. Cymeradwyo’r ddau resymeg wedi’u nodi ym mharagraffau 17-24 yr adroddiad fel y dull cytunedig o nodi’r wardiau y rhoddir y cynnig ar waith ynddynt, wrth i gyllid ddod ar gael;
3. Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Addysg i weithredu’r cynnig trwy ddefnyddio’r ddau resymeg wedi’u nodi ym mharagraffau 17-24 yr adroddiad.
Dogfennau ategol: