Eitem Agenda

Cynigion Trefniadaeth Ysgolion: Gwella'r Ddarpariaeth i Blant a Phobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 2018-22: Adroddiad wedi ymgynghori

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.       y dylid cyflwyno hysbysiadau statudol ar gyfer y cynlluniau canlynol:

 

a) Ehangu capasiti T? Gwyn i gynnig hyd at 198 o leoedd.

 

     Addasu rhan o adeilad Canolfan Ieuenctid Trelái i gynnig tair ystafell ddosbarth newydd ar gyfer Ysgol Ty Gwyn ac i gysylltu adeiladau’r ysgol a’r ganolfan ieuenctid.

 

b) Ymestyn ystod oedran Greenhill o 11-16 i 11-19 a chynyddu capasiti’r ysgol i fod â lle ar gyfer 64 o leoedd.  

 

     Addasu t?’r gofalwr ar y safle i gynnig llety.

 

c) Newid math yr angen addysgol arbennig yn Ysgol Meadowbank o: ‘anghenion iaith llafaredd a chyfathrebu’, a: ‘anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu ac anableddau dysgu cymhleth’  

 

     Addasu’r adeilad i wella hygyrchedd anabledd.

 

d) Cau’n raddol y CAA yn Ysgol Allensbank, gan gau’r dosbarth yn gyfan gwbl ym mis Gorffennaf 2020, neu pan fydd yr holl ddisgyblion presennol wedi cwblhau’r lleoliad cynradd os yw’n gynt na hynny.  

 

     Agor dosbarth ymyrraeth gynnar ag 8 lle i blant ag anghenion iaith a lleferydd yn Ysgol Allensbank, gan dderbyn y cohort cyntaf ym mis Medi 2019.  

 

e) Yn amodol ar benderfyniad Corff Llywodraethu Ysgol y Santes Fair, i fwrw ymlaen â'r hysbysiad statudol: cymeradwyo cynnwys llety CAA yng nghynllun Band B ar gyfer adeilad newydd yn Ysgol y Santes Fair.

 

f) Agor canolfan adnoddau arbenigol yn Ysgol Pwll Coch, gan gynnig hyd at 10 o leoedd i ddechrau, ond gyda sgôp i ehangu i 20 o leoedd yn y dyfodol, wrth i’r galw gynyddu.  

 

g) Ehangu nifer y lleoedd yn CAA Ysgol Glantaf i 30 o leoedd.

 

     Addasu a gwella’r llety i fod yn addas ar gyfer y niferoedd cynyddol.

 

2.   Nodir cyn gweithredu’r cynigion bydd angen cyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet yn nodi manylion unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir, yr ymatebion arfaethedig i'r gwrthwynebiadau hynny ac argymhellion ar gyfer gweithredu neu beidio â gweithredu’r cynigion hynny.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet fanylion am yr ymatebion a dderbyniwyd yn dilyn ymgynghoriad ar wyth cynnig ar gyfer gwella neu addasu darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ledled Caerdydd. Adroddwyd y derbyniwyd 611 o ymatebion ac roedd y rhain yn yr adroddiad ynghyd â dadansoddiad o'r pwyntiau wedi'u gwneud. Roedd y rhan o’r ymatebion o blaid y cynigion yn gyffredinol, ac eithrio’r cynnig sy’n ymwneud ag ysgol arbennig The Hollies ac felly ni fyddai’r cynnig hwn yn cael ei symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     cyhoeddi hysbysiadau statudol ar gyfer y cynlluniau canlynol:

 

a) ehangu capasiti T? Gwyn i gynnig hyd at 198 o leoedd.

 

Addasu rhan o adeiladi Canolfan Ieuenctid Trelai, i gynnig tair ystafell ddosbarth newydd ar gyfer Ysgol Ty Gwyn a chysylltu’r adeilad yr ysgol ac adeilad y ganolfan ieuenctid.

 

b) Estyn ystod oedran Greenhill o 11-16 i 11-19 a chynyddu capasiti'r ysgol i gynnig hyd at 64 lle.  

 

Addasu t?’ gofalwr nas defnyddir ar y safle i gynnig mwy o le.

 

c) Newid math yr angen addysgol arbennig y mae Ysgol Meadowbank yn darparu ar ei gyfer o: ‘anghenion iaith lleferydd a chyfathrebu’. i: ‘anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu ac anableddau dysgu cymhleth’  

 

Addasu'r adeilad i wella mynediad i bobl anabl.

 

d) Cau’n raddol y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Allensbank, gan gau’r dosbarth yn gyfan gwbl ym mis Gorffennaf 2020, neu pan fo’r holl ddisgyblion presennol wedi cwblhau’r lleoliad cynradd os yw’n gynt na hynny.  

 

Agor dosbarth ymyrraeth gynnar ag 8 lle i blant ag anghenion iaith a lleferydd yn Ysgol Allensbank, gan dderbyn y cohort cyntaf ym mis Medi 2019.  

 

 

e) Yn amodol ar benderfyniad gan Gorff Llywodraethu Ysgol yr Forwyn Fair, cyhoeddi hysbysiad statudol: cymeradwyo cynnwys adeiladau CAA yng nghynllun Band B ar gyfer adeiladau newydd Ysgol y Forwyn Fair.

 

f) Agor canolfan adnoddau arbenigol yn Ysgol Pwll Coch, gan gynnig hyd at 10 o leoedd i ddechrau, ond gyda sgôp i ehangu i 20 o leoedd yn y dyfodol, wrth i’r galw gynyddu.  

 

g) Estyn nifer y lleoedd yn y CAA yn Ysgol Glantaf i 30 lle.

 

Addasu a gwella adeiladau i roi lle i’r niferoedd mwy.

 

2.            Nodi cyn rhoi’r cynigion ar waith y bydd adroddiad pellach yn cael ei ddarparu i’r Cabinet yn nodi manylion unrhyw wrthwynebiad a dderbyniwyd, yr ymatebion arfaethedig i’r gwrthwynebiadau hynny ac argymhellion i roi’r cynigion ar waith neu fel arall.

 

 

 

Dogfennau ategol: