(a) Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) yn bresennol ac efallai y bydd hi am wneud datganiad;
(b) Bydd Ashley Lister (Aelod Cabinet Cynorthwyol dros y Gwasanaethau Ieuenctid), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a swyddogion yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan Aelodau;
(c) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;
(d) Ystyrir camau i’w cymryd ar gyfer yr eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), y Cynghorydd Ashley Lister (Aelod Cabinet Cynorthwyol dros y Gwasanaethau Ieuenctid), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Simon Morris (Arweinydd Cyrhaeddiad, Cymorth Ieuenctid) a James Healan (Arweinydd Tîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal) i’r cyfarfod.
Hefyd, croesawodd y Cadeirydd Steve Khaireh o Ganolfan Datblygu Cymunedol De Glan-yr-afon ynghyd â Jess Head ac Ashanti Rule (aelodau Canolfan Gweithgareddau Ieuenctid Llanedern), Ffion Harding (Darpariaeth Gofalwyr Ifanc) a Sam Evans ac Ezra O’Connor (aelodau Grassroots) i’r cyfarfod.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet Cynorthwyol i wneud datganiad, lle amlygodd y cynnydd da a welir yn y gwasanaeth, gydag adolygiad y Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ar fin ddod i ben. Ychwanegodd fod staff yn cwblhau gwiriadau iechyd i sicrhau bod yna safon darpariaeth da.
Dangoswyd fideo i’r Pwyllgor o waith y Gwasanaeth Ieuenctid.
Rhoddodd Simon Morris (Arweinydd Cyrhaeddiad, Cymorth Ieuenctid) a James Healan (Arweinydd Tîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal) gyflwyniad i aelodau yn sôn am y pwyntiau canlynol:
· Beth mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei gynnig yng Nghaerdydd?
· Pa mor dda ydyn ni’n cyflawni?
· Beth yw’r heriau?
· Beth yw’r cyfleoedd?
Fel rhan o’r cyflwyniad, clywodd aelodau safbwyntiau pobl ifanc o ran eu profiad nhw o’r gwasanaeth, fe bwysleision nhw pa mor bwysig oedd y gwasanaeth iddynt, gan eu helpu i ddysgu sgiliau newydd a chael swydd, yn ogystal â chymorth gyda phroblemau iechyd meddwl.
Rhannodd Steve Khaireh wybodaeth am waith y Grant Gwella Ieuenctid (GGI) yng Nghanolfan Datblygu Cymunedol De Glan-yr-afon, lle esboniodd fod y gwasanaeth yn cael ei ariannu’n rhannol trwy’r GGI. Mae’r rhaglen yn llwyddiant ysgubol, yn cael ei rhedeg dros 5 diwrnod yr wythnos gyda dros 100 o aelodau.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu, yn enwedig y bobl ifanc a gymerodd ran a rhannu eu profiadau o’r Gwasanaeth Ieuenctid.
CYTUNWYD – bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr Aelodau Cabinet yn cyfleu sylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: