Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. y dylid pennu Trefniadau ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2019/2020 fel y nodir ym Mholisi Derbyniadau 2019/2020.
2. y nodir bod y Trefniadau ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2019/2020 yn gweithredu Opsiwn A ar gyfer derbyn i addysg uwchradd, fel y nodir yn y Ddogfen Ymgynghori ar Drefniadau Derbyn (Atodiad 2).
y nodir y bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad canlyniadol ar newidiadau i ddalgylchoedd ysgol ar gyfer 2020/2021.
Cofnodion:
Bu i’r Cyng. Caro Wild ddatgan buddiant bersonol a rhagfarnus yn yr eitem hon oherwydd bod ganddo blentyn y byddai’r newidiadau’n effeithio arno. Gadawodd y Cyng. Wild y cyfarfod ac ni fu’n rhan o’r penderfynu.
Yn unol ag Adran 89 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a Rheoliadau Addysg (Penderfynu ar Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006, gofynnir i'r Cyngor adolygu'r Polisi Derbyn i Ysgolion bob blwyddyn. Felly ystyriodd y Cabinet y Polisi Trefniadau Derbyn i Ysgolion ar gyfer 2018/19. Bu’r polisi’n destun ymgynghori â phenaethiaid, cyrff llywodraethu, cyfarwyddwyr esgobaethol, awdurdodau addysg lleol cyfagos a chyrff eraill â diddordeb.
Yn dilyn ystyriaeth gan y Cabinet ar 16 Tachwedd 2017, cynhaliwyd ymgynghoriad yn ymateb i ganfyddiadau ymchwil Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru a gwahoddwyd sylwadau ar ddewisiadau eraill ar gyfer derbyn i addysg uwchradd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys ac yn gwerthuso’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
PENDERFYNWYD:
1. y dylid pennu y Trefniadau Drafft ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2019/2020 fel y nodir ym Mholisi Derbyniadau 2019/2020. Mae’r rhain wedi eu hatodi.
2. y nodir bod y Trefniadau ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2019/2020 yn gweithredu Opsiwn A ar gyfer derbyn i addysg uwchradd, fel y nodir yn y Ddogfen Ymgynghori ar Drefniadau Derbyn (Atodiad 2).
3. y nodir y bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad dilynol ar newidiadau i ddalgylchoedd ysgol ar gyfer 2020/2021.
Dogfennau ategol: