Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Graham Thomas
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Joel Williams
1) Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod chwe Chyngor cymuned yng Nghaerdydd, sef:
· Cyngor Cymuned Llys-faen
· Cyngor Cymuned Pentref Llaneirwg
· Cyngor Cymuned Pentyrch
· Cyngor Cymuned Radur a Phentre-poeth
· Cyngor Cymuned Sain Ffagan
· Cyngor Cymuned Tongwynlais
2) Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod y gwaith caled a wneir gan aelodau swyddogion y Cynghorau Cymuned dan sylw ac yn nodi bod llawer o’r rhai sy’n cymryd rhan yn wirfoddolwyr.
3) Heb ymdrechion y Cynghorau Cymuned, byddai nifer o amwynderau lleol yn cau ac ni fyddai digwyddiadau yn y cymunedau hyn yn cael eu cynnal.
Fodd bynnag, gall swyddi gwag fod yn anodd eu llenwi weithiau a gall fod diffyg ymgeiswyr yn etholiadau Cyngor Cymuned, gan arwain at ddiffyg democratiaeth.
4) Mae’r Cyngor hwn hefyd yn nodi yn hanesyddol dros lawer o flynyddoedd y bu sianeli cyfathrebu rhwng Cynghorau Cymuned a Chyngor Caerdydd yn wan neu na fu unrhyw sianeli cyfathrebu o gwbl.
Mae hyn yn cynnwys anfon hysbysiadau i Gynghorau Cymuned am waith arfaethedig ar y briffordd neu gynnwys Cynghorau Cymuned yn y gwaith o benderfynu ar geisiadau cynllunio a’r dulliau gorau o ddefnyddio arian Adran 106.
5) Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet, ar y cyd â’r Cynghorau Cymuned, i ystyried sut y gellir gwella ac atgyfnerthu cysylltiadau.
6) Efallai y bydd y Cabinet am ystyried y canlynol:
(i) A oes unrhyw feysydd lle gellid cyfuno gwasanaethau (e.e. un ai y Cyngor Cymuned neu Gyngor Caerdydd yn torri glaswellt mewn ardal).
(ii) Cyflwyno un pwynt cyswllt ar gyfer Cynghorau Cymuned.
(iii) Dulliau o ymsefydlu Siarter y Cynghorau Cymuned ymhellach yng Nghyngor Caerdydd a chynyddu’r ymwybyddiaeth ohoni.
(iv) Sicrhau cyswllt rheolaidd rhwng swyddogion allweddol a Chynghorau Cymuned, gyda’r rheiny yn mynd i gyfarfodydd Cynghorau Cymuned o bryd i’w gilydd.
(v) Sut y gellir ehangu rôl Cynghorau Cymuned o ran gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio a chytundebau adran 106.
Dylai’r Cabinet gyflwyno adroddiad ar yr uchod cyn pen chwe mis.
Dogfennau ategol: