Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
(1) creu dosbarth eithriad ar wahân i Bobl sy’n Gadael Gofal
(2) mae’r dosbarth eithriad hwn yn berthnasol i Bobl sy’n Gadael Gofal hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed.Bydd gostyngiad hyd at 100% ar y Dreth Gyngor (yn dibynnu ar gyfansoddiad y cartref) ar waith.
(3) bydd y disgownt hwn yn cael ei roi ar ôl bob gostyngiad, eithriad a Gostyngiad y Dreth Gyngor arall.
(4) bydd y Cyngor yn lobio Llywodraeth Cymru i greu eithriad statudol rhag gorfod talu’r dreth gyngor i bobl sy’n gadael gofal.
(5) bydd y Polisi'n cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r dosbarth eithrio newydd a hefyd caniatáu dyfarnu adran 13a (1)(c) am fwy na blwyddyn.
Cofnodion:
Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn amlinellu mesurau y gellir eu cymryd i eithrio pobl sy’n gadael gofal yng Nghaerdydd o atebolrwydd i dalu’r dreth gyngor. Cynigiwyd y dylid creu dosbarth esemptiad ar wahân i bobl sy’n gadael gofal oherwydd byddai hyn yn helpu i leddfu’r baich ariannol ar y gr?p agored i niwed.
PENDERFYNWYD:
(1) creu dosbarth esemptiad ar wahân ar gyfer pobl sy’n gadael gofal
(2) y dylai’r dosbarth esemptiad hwn fod yn berthnasol i bobl sy'n gadael gofal tan iddynt droi'n 25 oed. gweithredu gostyngiad hyd at 100% oddi ar y Dreth Gyngor (yn ddibynnol ar gyfansoddiad yr aelwyd).
(3) y bydd y gostyngiad yn cael ei weithredu ar ôl gweithredu Gostyngiad y Dreth Gyngor, yr holl ostyngiadau a’r eithriadau eraill.
(4) y bydd y Cyngor yn ceisio dylanwadu ar Lywodraeth Cymru i greu esepmtiad statudol o dalu’r Dreth Gyngor i bobl sy’n gadael gofal.
(5) diweddaru’r Polisi i adlewyrchu'r dosbarth esemptiad newydd a chymeradwyo adran 13a (1)(c) am fwy na blwyddyn.
Dogfennau ategol: