Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. cefnogi cyflwyno cais cynllunio i geisio’r caniatâd angenrheidiol ar gyfer datblygu safle ar yr A469 i’r gogledd o’r M4 ac wedi’i nodi ar y map atodedig fel Atodiad 1 fel mynwent drefol.
2. y bydd swyddogion yn ceisio negodi ildio’r cytundeb tenantiaeth cyfredol gan y llesddeiliaid er mwyn cymryd y tir angenrheidiol yn ôl ar ddyddiad cynt ac ar ôl hynny gyhoeddi hysbysiad terfynu o ran y denantiaeth.
Cofnodion:
Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn manylu’r cynigion i ddatblygu ardal o dir y Cyngor tua’r gogledd o’r M4, ar yr A469 ar gyfer creu mynwent, yn dibynnu ar ganiatâd cynllunio. Mae’r safle yn 12.5 erw a bydd yn cynnig man claddu ar gyfer gogledd y ddinas am y 35—40 blynedd nesaf.
PENDERFYNWYD:
1. cefnogi cyflwyno cais cynllunio i geisio’r caniatâd angenrheidiol ar gyfer datblygu safle ar yr A469 tua’r gogledd o’r M4, sydd wedi’i nodi ar y map atodol fel Atodiad 1, fel mynwent drefol.
2. y bydd swyddogion yn ceisio negodi ildio’r cytundeb tenantiaeth cyfredol gan y lesddeiliaid er mwyn adfer y tir angenrheidiol ar ddyddiad cynharach, ac yna cyhoeddi hysbysiad terfynu o ran y denantiaeth.
Dogfennau ategol: