(a) Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) yn bresennol ac mae’n bosibl y bydd hi am wneud datganiad.
(b) Bydd Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Yr Athro Chris Taylor, Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd Cymru, Data a Dulliau (WISERD), Prifysgol Caerdydd, Adran Wyddorau Cymdeithasol a Swyddogion yn cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau’r aelodau;
(c) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;
(d) Ystyrir camau i’w cymryd yn berthnasol i'r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Michelle Dudridge-Hussain (Rheolwr Gweithredol Cynllunio a Darpariaeth), Brett Andrewartha (Rheolwr Tîm CTY), a’r Athro Chris Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Prifysgol Caerdydd, i'r cyfarfod.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad, lle y nododd y cyfarwyddwyd yr Athro Chris Taylor i ymchwilio i drefniadau derbyn i ysgolion ac unrhyw ddewisiadau amgen.
Mynegodd yr Athro Taylor ei farn nad oedd unrhyw angen i wneud unrhyw newidiadau; nid yw’r trefniadau’n gwaethygu integreiddio mewn ysgolion ac ni ddylid gwneud newidiadau oni bai y bydd y newidiadau hynny'n gwella pethau.
Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, ceisio eglurhad pellach neu wneud sylwadau am y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:
CYTUNWYD: Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet yn cyfleu arsylwadau’r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: