Mae’r Cabinet yn cynnwys Arweinydd y
Cyngor a hyd at naw Aelod Cabinet (gan
gynnwys y Dirprwy Arwienydd)
Etholir Arweinydd y Cyngor
gan y Cyngor, sydd
wedyn yn
dewis Aelodau’r Cabinet a benodir gan y
Cyngor. Mae gan bob Aelod
unigol o’r Cyngor
gyfrifoldeb dros bortffolio
penodol o wasanaethau a pholisïau’r Cyngor. Yr Arweinydd sy’n
penodi Aelodau i’w
portffolios.
Y Cabinet yw prif gorff penderfynu’r Cyngor ac mae’n
gyfrifol am weithredu fframwaith
cyllid a pholisi’r Cyngor.
Mae rhai o’r prif
faterion, megis gosod y
gyllideb a’r Dreth
Gyngor bob blwyddyn, yn
cael eu
pennu gan
y Cyngor.
Fel arfer
cynhelir cyfarfodydd o’r
Cabinet yn fisol (heblaw am
fis Awst),
a’r Arweinydd sy’n
eu cadeirio. Mae’r
cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd,
heblaw am adegau pan fo
materion personol neu
gyfrinachol yn cael eu trafod.
Mae’r Cabinet yn penderfynu
ar faterion
ar y cyd, a
gyhoeddir wedyn mewn cofrestr penderfyniadau
yn dilyn
cyfarfodydd. Mae copïau o agendâu, adroddiadau, cofrestri
penderfyniadau a chofnodion cyfarfodydd
y Cabinet ar wefan y Cyngor.
Mae adroddiadau fydd yn cael eu hystyried yng
nghyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol
yn cael
eu hamserlennu ym
Mlaen Gynllun y Cabinet.