Lleoliad: YB 4, Neuadd y Sir, Cyfarfod Aml-Leoliad. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Deguara
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion cyfarfod y Cabinet ar 19 Hydref 2023 PDF 173 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023. |
|
Monitro Cyllideb - Adroddiad 6 Mis PDF 168 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. nodi’r alldro ariannol refeniw seiliedig ar y sefyllfa ragamcanol ym Mis 6 2023/24.
2. nodi’r gwariant cyfalaf a'r sefyllfa ragamcanol ym Mis 6 2023/24.
Cofnodion: Cylchredwyd llythyr gan y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad.
Ystyriodd y Cabinet adroddiad monitro’r gyllideb mis 6 ar gyfer 2023/24. Mae'r adroddiad yn rhoi manylion sefyllfa monitro ariannol ragamcanol 2023/24 i'r Cabinet ar ddiwedd mis Medi 2023 (mis 6).
Nodwyd bod y sefyllfa monitro gyffredinol ym Mis 6 yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 151. |
|
Strategaeth Ariannu Arena Dan Do PDF 236 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nid yw Atodiadau 1 a 2 i’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 16 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1) cymeradwyo Strategaeth Ariannu’r Arena Dan Do fel y nodir yn yr adroddiad hwn ac yn fwy manwl ar Atodiad cyfrinachol 2.
2) awdurdodi mynediad a gweithrediad y Cytundeb Datblygu a Chyllido (CDaCh) a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2023, ac wrth wneud hynny gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r ddogfennaeth gyfreithiol fel y bo'n angenrheidiol, am resymau gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i sicrhau cysondeb rhyngddynt a chwblhau unrhyw feysydd sy'n weddill o weithredoedd a dogfennau pellach sy'n ategol i'r dogfennau cyfreithiol a gymeradwywyd; yn amodol ar ymgynghori â Swyddog A151 a Swyddogion Cyfreithiol.
3) nodi y bydd goblygiadau ariannol perthnasol, yn amodol ar ymrwymo i CDaCh gyda Datblygwr/Gweithredwr yr Arena a chymeradwyaeth y Cabinet am Achos Busnes Maes Parcio Aml-lawr mewn cyfarfod yn y dyfodol, yn cael eu diweddaru yn y Cynlluniau Ariannol Tymor Canolig, Strategaethau Cyfalaf a Rheoli'r Trysorlys i fod yn gyson â'r strategaeth ariannu hon, i ffurfio amlen fforddiadwyedd ddiwygiedig.
4) Nodi bod Gweithgareddau Rheoli'r Trysorlys yn cael eu dirprwyo i'r Swyddog A151 a bydd gweithredu ac adolygu'r strategaeth ariannu hon yn cael ei gweithredu fel rhan o'r diweddariadau blynyddol i'r strategaeth a'r pwyntiau gwirio mewn perthynas â'r prosiect hwn yn benodol fel rhan o adolygiad ar ôl y prosiect.
Cofnodion: Nid yw Atodiadau 1 a 2 i’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 16 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Dosbarthwyd llythyrau cyhoeddus a chyfrinachol gan ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 152. |
|
Ailgomisiynu Contract y Gwasanaeth Cynghori PDF 183 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo'r dull trosfwaol ar gyfer caffael darpariaeth y Gwasanaeth Cynghori allanol.
2. dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Oedolion, Tai a Chymunedau, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd, i bennu pob agwedd ar y broses gaffael (gan gynnwys pennu'r meini prawf gwerthuso i'w defnyddio, dechrau'r broses gaffael, dyfarnu'r contractau a'r holl faterion ategol sy'n ymwneud â chaffael).
Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet adroddiad ynghylch ailgomisiynu contract y Gwasanaeth Cynghori. Mae'r adroddiad yn nodi'r trefniadau caffael arfaethedig ar gyfer y contract gwasanaethau cynghori o 1 Ebrill 2024.
Mae'r adroddiad yn manylu ar y gwasanaethau cynghori a ddarperir gan yr awdurdod lleol ac yn nodi'r trefniadau caffael presennol ac arfaethedig. Tynnwyd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 153. |
|
Cyflawni Cynnig Gwaith Ieuenctid Cynaliadwy I Gaerdydd PDF 237 KB Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cytuno ar weledigaeth, egwyddorion a model gweithredu newydd ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.
2. cymeradwyo’r y ffocws arfaethedig ar weithio yn lleol, i gryfhau ac integreiddio disgyblaethau gwaith ieuenctid mewn ardal leol, gan sicrhau bod timau'n ymateb i anghenion y gymuned y maent yn ei gwasanaethu.
3. Nodi y bydd y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes yn darparu diweddariadau i'r Aelod(au) Cabinet perthnasol ar gyflawni'r camau gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys sicrwydd bod adnoddau'n cael eu blaenoriaethu'n briodol i fynd i'r afael ag anghenion y plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed ac sydd mewn perygl.
4. Nodi y bydd uwch reolwyr yn darparu diweddariadau i'r Aelod(au) Cabinet perthnasol ar y gwaith sy'n cael ei wneud i integreiddio Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn fwy effeithiol gyda gwasanaethau ehangach i bobl ifanc.
Cofnodion: Dosbarthwyd llythyr gan Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc i’r Aelodau.
Daeth adroddiad i law y Cabinet yn nodi'r cynigion i ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cynaliadwy i Gaerdydd. Mae'r adroddiad yn dilyn Adolygiad Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn 2022 ac yn tynnu ar yr argymhellion sydd wedi'u cynnwys yn adroddiad yr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 154. |
|
Dogfennau ychwanegol: |