Lleoliad: YB 4, Neuadd y Sir, Cyfarfod Aml-Leoliad. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Deguara
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion cyfarfod y Cabinet ar 14 Rhagfyr 2023 PDF 174 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd.
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023. |
|
Penderfyniad: Cytunodd y Cabinet i dderbyn yr adroddiad ac ymateb yn yr amserlen arferol.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Williams Adroddiad yr Ymchwiliad Gorchwyl a Gorffen ar y Cyd ar y CDLl Newydd. Mae gan adroddiad yr ymchwiliad 130 o ganfyddiadau allweddol a 17 o argymhellion.
PENDERFYNWYD: derbyn yr adroddiad ar Ymchwiliad y Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant o'r enw "Amgueddfa Caerdydd" a chyflwyno ymateb o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Diweddariad ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin PDF 205 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni chaiff Atodiad 2 Adroddiad y Cabinet ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Datganodd y Cynghorydd Sangani fuddiant personol yn yr eitem hon gan ei bod wedi’i chyflogi gan Prince's Trust.
PENDERFYNWYD:
1. dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr a'r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor i ddatblygu'r prosesau arfaethedig ar gyfer cyllid nas dyrannwyd a nodwyd yn yr adroddiad hwn ym mharagraffau 16 i 19.
2. dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Gymunedau a Thai i ddyrannu unrhyw danwariant fel yr amlinellir ym mharagraffau 20 i 21.
3. dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr a’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor i ddod ag unrhyw drefniadau sy'n ymwneud â thanwariant rhanbarthol cyffredinol i ben.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sangani fuddiant personol yn yr eitem hon gan ei bod yn cael ei chyflogi gan Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru.
Ni chaiff Atodiad 2 Adroddiad y Cabinet ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mae Atodiad 4 i’r adroddiad hwn wedi'i olygu i ddileu gwybodaeth sydd wedi'i heithrio rhag ei chyhoeddi yn unol â pharagraffau 13 a 21 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972; a golygwyd Atodiadau 5 a 6 i’r adroddiad hwn i ddileu gwybodaeth sydd wedi'i heithrio rhag ei chyhoeddi yn unol â pharagraffau 14 a 21 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Datganodd y Cynghorydd Merry fuddiant personol yn yr eitem hon gan fod y penderfyniad yn effeithio ar ran o'i ward.
Datganodd y Cynghorydd Burke fuddiant personol yn yr eitem hon gan ei bod yn rhiant i blant mewn ysgol yn Ystum Taf.
Datganodd y Cynghorwyr Mackie a Weaver fuddiant personol a rhagfarnol gan eu bod yn Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Gladstone ac y gwnaethant gymryd rhan yn yr ymgynghoriad mewn swydd Llywodraethwr. Gadawodd y Cynghorwyr Mackie a Weaver y cyfarfod ac ni wnaethant gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ar yr eitem hon.
PENDERFYNWYD:
1. Nodi cynigion Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i drosglwyddo Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol, o fis Medi 2025, a gaiff ei benderfynu gan y Corff Llywodraethu ar 11 Ionawr 2024.
2. Yn amodol ar benderfyniad Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, gweithredu'r cynigion y cyfeirir atynt yn argymhelliad 1, i fwrw ymlaen i:
(i) Gymeradwyo'r cynigion mewn cysylltiad ag Ysgol Gynradd Allensbank, Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Mynydd Bychan fel y'u nodir ym mharagraff 1 yr adroddiad hwn, heb eu haddasu.
(ii) Awdurdodi swyddogion i gymryd camau priodol i weithredu'r cynigion fel y nodir ym mharagraff 1.
(iii) Awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r penderfyniad o fewn 7 diwrnod i benderfynu ar y cynigion.
(iv) Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes (gan ymgynghori ag Aelodau'r Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau a Chyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Adnoddau, a'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd) benderfynu ar bob agwedd ar y broses gaffael (gan gynnwys, er mwyn osgoi amheuaeth, ddatblygu’r holl ddogfennau caffael a’r meini prawf dethol a dyfarnu, dechrau caffael hyd at ddyfarnu contractau) a chymeradwyo’r holl ddogfennau atodol sy’n gysylltiedig ag unrhyw faterion eiddo sy’n codi o’r adroddiad hwn.
Cofnodion: Mae Atodiad 4 yr adroddiad hwn wedi'i olygu i ddileu gwybodaeth sydd wedi'i heithrio rhag ei chyhoeddi yn unol â pharagraffau 13 a 21 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972; ac mae Atodiadau 5 a 6 yr adroddiad hwn wedi’u golygu i ddileu gwybodaeth sydd wedi'i heithrio rhag ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Strategaeth Amwynder Sglefrfyrddio Caerdydd PDF 186 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. mabwysiadu Strategaeth Amwynder Sglefrfyrddio.
2. Nodi y bydd Swyddogion yn adolygu'r cynnydd i gyflawni'r strategaeth drwy'r cynllun cyflawni Parciau, Chwarae a Seilwaith Blynyddol sydd ynghlwm yn Atodiad 2 i'r adroddiad hwn.
Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet Strategaeth Amwynder Sglefrfyrddio arfaethedig Caerdydd, sef Atodiad 1 yr adroddiad. Amlygwyd bod sglefrfyrddio wedi dod yn Gamp Olympaidd ac, o ganlyniad, mae nifer y bobl yn cymryd rhan ynddo a'r galw amdano yn tyfu. Nodwyd y byddai’r Strategaeth yn cyfrannu at nodau strategaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Ardrethi Annomestig – Dileu Dyledion PDF 165 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni fydd Atodiadau A a B yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi yn rhinwedd Paragraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
PENDERFYNWYD: awdurdodi dileu'r dyledion a nodir yn Atodiad A, sy'n dod i £120,375.00.
Cofnodion: Ni fydd Atodiadau A a B yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi yn rhinwedd Paragraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn gofyn am awdurdodiad i ddileu dyledion sy’n dod i gyfanswm o £120,375.00. Mae'r adroddiad yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
REFIT:4 2023/24 - Rhaglen Ôl-ffitio Arbed Ynni PDF 394 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. nodi'r broses a'r dull o gyflawni Rhaglen Re:Fit 4.
2. dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Cyfreithiol, i benderfynu a ddylid bwrw ymlaen ag elfennau gwaith yn y dyfodol ac ymdrin yn gyffredinol â phob agwedd (hyd at ac yn cynnwys dyfarnu unrhyw gontractau) sydd i'w darparu gan y darparwr gwasanaeth penodedig.
3. Nodi y bydd adroddiadau diweddaru pellach yn cael eu dwyn yn ôl i'r Cabinet i gael gwybodaeth am ddatblygiad y rhaglenni cyffredinol. Cofnodion: Derbyniodd y Cabinet adroddiad ynghylch datblygu a dull rhaglen ôl-ffitio newydd ar gyfer cadwraeth ynni sef Re:Fit 4 ar draws ystâd eiddo'r Cyngor, a fydd yn helpu i fwrw targedau lleihau carbon Amgylchedd Adeiledig Caerdydd Un Blaned.
Mae'r adroddiad yn nodi manylion y Strategaeth Eiddo Corfforaethol a'r targedau lleihau carbon ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|
Diweddariad ar Lanfa'r Iwerydd PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nid yw Atodiadau 2,3,4,5,6, 8 a 9 i’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 16 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
i) Nodi ymarfer y farchnad ar gyfer ailddatblygu tir a nodwyd fel Ardal B ar y cynllun sydd ynghlwm yn Atodiad 1 a dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Swyddog Adran 151, a’r Swyddog Cyfreithiol i:
a. negodi a llunio cytundeb cyfyngu gyda'r 'Cynigydd a Ffefrir'.
b. negodi contract cytundeb opsiynau gyda'r 'Cynigydd a Ffefrir' a dychwelyd i'r Cabinet i'w gymeradwyo'n derfynol.
ii) nodi’r strategaeth parcio ceir ddiwygiedig ar gyfer cynllun adfywio Glanfa'r Iwerydd fel y nodir yn Atodiad Cyfrinachol 4 ac awdurdodi’r newid i’r Cytundeb Cronfa Datblygu Arena Dan Do gyda Live Nation i adlewyrchu'r dull newydd hwn.
iii) awdurdodi caffael MSCP Stryd Pen y Lanfa yn unol â’r telerau a nodir yn Atodiad Cyfrinachol 6 a dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Cyfreithiol i gwblhau'r caffaeliad.
iv) cymeradwyo priodoli tir at ddibenion cynllunio fel y nodir yn Atodiad 7 cael eu cymeradwyo a dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd i briodoli parseli yn y dyfodol fel yr amlinellwyd.
v) nodi’r cynnig ar gyfer Rhodfa Lloyd George fel y nodir yn Atodiad 8 ac Atodiad Cyfrinachol 9 ac awdurdodi ymarfer ymgynghori i ystyried y cynnig.
Cofnodion: Nid yw Atodiadau 2,3,4,5,6, 8 a 9 yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 16 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn manylu ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cynllun Parcio yn y Ddinas PDF 319 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. (yn amodol ar fân ddiwygiadau yn unol ag argymhelliad 5), cymeradwyo drafft y Cynllun Parcio yn y Ddinas (sydd ynghlwm yn Atodiad 1).
2. cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar ddrafft y Cynllun Parcio yn y Ddinas (sydd ynghlwm yn Atodiad 1).
3. (yn amodol ar fân ddiwygiadau yn unol ag argymhelliad 5), cymeradwyo’r diwygiadau drafft i Bolisïau Parcio y Cyngor (sydd ynghlwm yn atodiadau 3-6).
4. cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y diwygiadau drafft i’r Polisïau Parcio (sydd ynghlwm yn atodiadau 3-6).
5. Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth a Swyddog Adran 151 y Cyngor, i:
i. Baratoi a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddrafft y Cynllun Parcio yn y Ddinas a'r diwygiadau drafft i Bolisïau Parcio'r Cyngor; a
ii. Gwneud mân ddiwygiadau i’r Cynllun Parcio yn y Ddinas a'i gymeradwyo, ynghyd â'r newidiadau i Bolisïau Parcio'r Cyngor yn dilyn unrhyw argymhellion a wnaed ar ôl cau'r ymgynghoriad cyhoeddus.
Cofnodion: Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth (yn amodol ar fân ddiwygiadau) o'r Cynllun Parcio yn y Ddinas drafft, sef Atodiad 1 yr adroddiad, a diwygiadau drafft i Bolisïau Parcio'r Cyngor, sef Atodiadau 3-6 yr adroddiad. Mae'r adroddiad hefyd yn ceisio awdurdod i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9. |
|
Adroddiad Blynyddol 2022-23 y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) PDF 858 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: nodi Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar gyfer 2022-23. Cofnodion: Derbyniwyd Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, sef Atodiad A yr adroddiad. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion y perfformiad gweithredol ar draws y rhanbarth gan gynnwys goblygiadau gweithredol allweddol i Gaerdydd o ran; cydymffurfiaeth sefydliadau bwyd â hylendid bwyd, canran yr eiddo preifat gwag yn cael eu hadfer ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10. |
|
Strategaeth Cyfranogiad 2023-27 PDF 218 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo Strategaeth Cyfranogiad 2023-27;
2. nodi na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i'r Cynllun Deisebau cymeradwy, sydd i'w adolygu eto yn 2025/26;
3. cymeradwyo’r Canllaw Cyfansoddiad ac awdurdodi’r Swyddog Monitro i wneud unrhyw fân newidiadau y gallai fod eu hangen o bryd i'w gilydd; a
4. dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Aelodau'r Cabinet ar gyfer Trechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd, i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i Strategaeth Cyfranogiad ddrafft 2023-27 yn dilyn unrhyw argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Adolygu Polisi a Chraffu Perfformiad, ynghyd ag unrhyw fân ddiwygiadau eraill, yn ôl yr angen, cyn eu cyhoeddi.
Cofnodion: Derbyniodd y Cabinet adroddiad ynghylch ymatebion i'r ymgynghoriad ar Strategaeth Cyfranogiad y Cyngor ac a oedd wedi hynny yn ceisio cymeradwyaeth o'r diwygiadau canlyniadol i Strategaeth Cyfranogiad 2023-27 ddrafft, sef Atodiad A yr adroddiad. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth o’r Canllaw Cyfansoddiad terfynol, sef Atodiad C yr adroddiad. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11. |