Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion

Cabinet - Dydd Iau, 14eg Rhagfyr, 2023 2.00 pm

Lleoliad: YB 4, Neuadd y Sir, Cyfarfod Aml-Leoliad. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Deguara 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

156.

Cofnodion y Cyfarfodydd Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023 a 23 Tachwedd 2023 pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 26 Hydref a 23 Tachwedd 2023.

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 26 Hydref a 23 Tachwedd 2023.

 

157.

Adroddiad Monitro Ansawdd Aer Blynyddol pdf eicon PDF 386 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.         cymeradwyo a derbyn y canlyniadau monitro a gasglwyd yn 2022.

 

2.         cymeradwyo Adroddiad Cynnydd blynyddol 2023 (fel yr atodwyd yn Atodiad 1) i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo erbyn 31 Rhagfyr 2023.

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet adroddiad Cynnydd Blynyddol Ansawdd Aer Lleol sy'n defnyddio data o setiau data ansawdd aer a gafwyd yn 2022 cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn Cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru yn 2020, cyhoeddodd y Cyngor gynllun i fynd i'r afael â'r materion a godwyd ynghylch ansawdd aer ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 157.

158.

Strategaeth Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd a Dogfennau Gweithredol - Diweddariad pdf eicon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: bod y Strategaeth Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd wedi'i diweddaru, a'r dogfennau gwrth-dwyll gweithredol sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn yn cael eu cymeradwyo.

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet y Strategaeth Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd a gynigiwyd.  Nodwyd bod Strategaeth Atal Twyll a Llygredd wedi cael ei chyflwyno a'i chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019.  Mae'r strategaeth wedi cael ei hadnewyddu a'i diweddaru yn seiliedig ar ganllawiau a gwybodaeth arfer gorau gan Sefydliad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 158.

159.

Asesiad Perfformiad Canol Blwyddyn 2023/24 pdf eicon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.         bod asesiad canol blwyddyn o berfformiad y Cyngor fel y nodir yn yr adroddiad hwn ac Atodiad A, gan gynnwys cyflawni ymrwymiadau a blaenoriaethau allweddol ar ddiwedd Chwarter 2 2023/24, a'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod Cynllun Corfforaethol 2023-26 yn cael eu cyflawni’n effeithiol, yn cael eu nodi.

 

2.         bod yr ymateb i unrhyw argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad (PRAP) (Atodiad C) mewn perthynas â'r Asesiad Canol Blwyddyn drafft yn cael ei ystyried a'i gytuno.

 

3.         bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i wneud unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i'r Asesiad Canol Blwyddyn drafft sy'n ofynnol i adlewyrchu'r ymateb i argymhellion Pwyllgor Craffu APaPh (a gytunwyd o dan argymhelliad 2).

 

Cofnodion:

Nodwyd bod llythyr gan y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad wedi’i gylchredeg.   Nododd yr Arweinydd fod y ddau argymhelliad a wnaed wedi cael eu derbyn yn llawn.   Yn ogystal, trafododd Panel Perfformiad y Cyngor yr adroddiad hefyd, a gwnaeth 11 o argymhellion y derbyniwyd 10 ohonynt yn llawn ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 159.

160.

Rheoli Risg Corfforaethol – Chwarter 2 2023/24 pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: nodi cynnwys y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

Cofnodion:

 

Derbyniodd y Cabinet y sefyllfa rheoli risg wedi'i diweddaru yn chwarter 2 ar gyfer 2023/24.  Nodwyd y byddai 19 o risgiau yn chwarter 2 yn cael eu cyflwyno i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol.  Nodwyd bod y rhan fwyaf o risgiau'n parhau ar yr un lefel a bod mesurau lliniaru i fynd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 160.

161.

Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor 2024/25 pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

(1)          cymeradwyo cyfrifiad sail y dreth gyngor ar gyfer blwyddyn 2024/25.

 

(2)           yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail Dreth) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, y swm a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel Sail y Dreth Gyngor ar gyfer 2024/25 fydd 151,372.

 

(3)        yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail Dreth) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor fel Sail y Dreth Gyngor ar gyfer 2024/25 yn yr ardaloedd cymunedol sy’n destun praesept fydd fel a ganlyn:

 

Llys-faen 

3,068

Pentyrch         

3,709

Radur

4,090

Sain Ffagan

2,006

Pentref Llaneirwg

2,512

Tongwynlais

830

 

(4)          y trefniadau ar gyfer talu praeseptau yn 2024/25 i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru i fod drwy randaliadau cyfartal ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis o fis Ebrill 2024 hyd fis Mawrth 2025; ac i’r Cynghorau Cymuned i fod drwy un taliad ar ddiwrnod gwaith cyntaf Ebrill 2024, ac ar yr un sail a hwnnw a ddefnyddiwyd yn 2023/24; ac i’r awdurdodau praeseptu gael eu hysbysu yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet Sail y Dreth Cyngor ar gyfer 2024/25 y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei chyfrifo yn unol â'r darpariaethau statudol sy'n llywodraethu'r Dreth Gyngor o dan Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

 PENDERFYNWYD:

 

1.            cymeradwyo cyfrifiad sail y dreth gyngor ar gyfer blwyddyn 2024/25.

 

2.            yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 161.

162.

Adolygiadau Polisi Gwaith Teg (Gweithiwr Asiantiaeth Hirdymor) pdf eicon PDF 171 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

(1)      cymeradwyo'r diwygiadau i'r Polisi Gwaith Teg (Gweithiwr Asiantaeth Hirdymor) (Atodiad 1) a bod ei adolygiad parhaus yn cael ei nodi; a,

 

(2)      dirprwyo cyfrifoldeb i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr a'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, gyda chyngor gan y Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol (neu gynrychiolydd awdurdodedig) i wneud unrhyw ddiwygiadau pellach i'r Polisi Gwaith Teg (Gweithiwr Asiantaeth Hirdymor), yr ystyrir eu bod yn briodol er mwyn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i fod yn gyflogwr 'Gwaith Teg'.

 

 

Cofnodion:

 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn manylu ar ddiwygiadau i Bolisi Gwaith Teg y Cyngor (Gweithiwr Asiantaeth Hirdymor).   

 

Nodwyd, yn dilyn ymgysylltu ag Undebau Llafur fel rhan o broses Partneriaeth Undebau Llafur y Cyngor, y cynhaliwyd trafodaethau o ran lleihau'r cyfnod cychwynnol ar gyfer cael cyflogaeth dros dro o ddwy flynedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 162.

163.

Pennu Rhent Tai Cyngor a Thâl Gwasanaeth 2024/25 pdf eicon PDF 295 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Ash Lister fudd personol a rhagfarnus yn yr eitem hon gan fod aelod o'r teulu yn denant i'r Cyngor.  Gadawodd y Cynghorydd Lister y cyfarfod ac ni chymerodd ran yn y broses o wneud penderfyniadau.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r y dull ar gyfer gosod taliadau rhent a gwasanaethau ar gyfer anheddau sy'n eiddo i'r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 (fel y nodir yn yr adroddiad hwn).   

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ash Lister fudd personol a rhagfarnus yn yr eitem hon gan fod aelod o'r teulu yn denant i'r Cyngor.  Gadawodd y Cynghorydd Lister y cyfarfod ac ni chymerodd ran yn y broses o wneud penderfyniadau.

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y dull  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 163.

164.

Argyfwng Tai yng Nghaerdydd pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni fydd Atodiadau 1, 2, 3, a 7 yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14, 16 a 21 Rhan 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.            cynnal proses ymgynghori ar y newidiadau polisi arfaethedig a amlinellir ym mharagraffau 34, 39 a 40 o'r adroddiad, gan gynnwys ystyried bwriadoldeb wrth wneud penderfyniadau digartrefedd, dileu ardaloedd o ddewis ar gyfer ymgeiswyr digartref ar y Rhestr Aros Tai Cyffredin a chynnig llety rhent preifat y tu allan i'r ddinas, yn ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos.

 

2.            dirprwyo cymeradwyaeth derfynol ar weithredu'r newidiadau o dan argymhelliad (i) uchod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet, Tai a Chymunedau, yn dilyn asesiad effaith llawn ac ymgynghori â rhanddeiliaid.

 

3.            mewn egwyddor caffael yr eiddo a nodwyd yn Atodiad 1a chymeradwyo dyfarnu contract newydd yn uniongyrchol ar gyfer darparu llety dros dro modiwlaidd ar draws y safleoedd a nodwyd yn Atodiad 2.

 

4.            cymeradwyaeth derfynol caffael eiddo a dyfarnu'r contract yn uniongyrchol i Wates a nodir yn argymhelliad (iii) uchod a dirprwyo unrhyw faterion ategol sy'n ymwneud ag ef i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau mewn ymgynghoriad â Swyddog A.151, Gwasanaethau Cyfreithiol ac aelodau'r Cabinet dros Dai a Cymunedau a Chyllid, Moderneiddio a Pherfformiad yn amodol ar:

 

·         Cymeradwyo cyllid grant priodol gan Lywodraeth Cymru,

·         Cytundeb Pennaeth Telerau ar gyfer y trefniadau prydles arfaethedig gyda Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ar gyfer y safleoedd a nodwyd yn Atodiad 2 ac mewn perthynas â'r pryniant eiddo a nodwyd yn Atodiad 1.

·         Cadarnhad o asesiad hyfywedd ariannol addas ar gyfer pob un o'r safleoedd.

·         Cadarnhad nad yw'r penderfyniad yn arwain at ymrwymiadau y tu allan i gyfyngiadau fframwaith y gyllideb.

Cofnodion:

Ni fydd Atodiadau 1, 2, 3, a 7 yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14, 16 a 21 Rhan 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad ynghylch yr Argyfwng Tai yng  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 164.

165.

Datblygu Canolfan Lles Byw'n Annibynnol pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.    cymeradwyo, mewn egwyddor, y cynigion ar gyfer datblygu Canolfan Lles Byw'n Annibynnol i ddarparu eiddo cynaliadwy ar gyfer y Cyd-wasanaeth Offer ynghyd â Th? Clyfar newydd a Hyb Lles amlddisgyblaethol, yn unol â'r nodau a nodir yn y Strategaeth Heneiddio'n Dda.

 

 2. Cytuno ar gam dylunio manwl ar gyfer y Ganolfan Byw'n Annibynnol a Lles, a nodi y bydd yr achos busnes llawn dros y datblygiad yn destun adroddiad pellach gan y Cabinet.  

Cofnodion:

 Derbyniodd y Cabinet adroddiad ynghylch cynigion ar gyfer datblygu Canolfan Lles Byw'n Annibynnol i ddatblygu gwasanaethau atal ymhellach a chefnogi byw'n annibynnol, fel y nodir yn Strategaeth Heneiddio'n Dda y Cyngor.

 

Mae'r Ganolfan Lles Byw'n Annibynnol yn cynnwys dwy elfen integredig sy’n cyfrannu’r naill at y llall: 

 

·    Mae'r Cyd-Wasanaeth Offer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 165.

166.

Adolygiad o'r Farchnad Cartrefi Gofal i bobl hŷn a'r dull o bennu ffioedd ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth ar gyfer 2024/5 pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nid yw Atodiadau A, B a D yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol yn unol â pharagraff 16 o Ran 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

PENDERFYNWYD:

 

1)    bod canfyddiadau'r adolygiad o leoliadau cartrefi gofal ar gyfer pobl h?n yn cael eu nodi.

 

2)    bod y gwaith sy'n cael ei wneud i wella sicrwydd ansawdd cartrefi gofal ar gyfer pobl h?n yn cael ei nodi.

 

3)    bod y dull o bennu ffioedd ar gyfer lleoliadau cartrefi gofal pobl h?n ar gyfer 2024-25 a gwasanaethau eraill a gomisiynir gan y Gwasanaethau Oedolion yn cael ei gytuno, yn amodol ar ymgynghori pellach â darparwyr gofal a chadarnhad o'r dyraniad ariannol drwy'r broses o osod y gyllideb. Bod yr awdurdod gwneud penderfyniadau cysylltiedig mewn perthynas â'r cynnydd blynyddol ar gyfer gofal a chymorth a chyfraddau cost safonol newydd gofal ar gyfer lleoliadau mewn cartref gofal i bobl h?n ar gyfer 2024/25 yn cael ei ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Oedolion, Tai a Chymunedau mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Oedolion) Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro.

 

4)    bod y dull ar gyfer comisiynu lleoliadau cartrefi gofal ar gyfer pobl h?n yn y dyfodol, gan gynnwys cyfuniad o drefniadau darparwyr a fframwaith cymeradwy yn cael ei gytuno a bod yr awdurdod penderfynu ynghylch unrhyw gaffael gwasanaethau cysylltiedig yn cael ei ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Oedolion, Tai a Chymunedau mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Oedolion) Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr y Gyfraith a Llywodraethu.

 

Cofnodion:

Nid yw Atodiadau A, B a D yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol yn unol â pharagraff 16 o Ran 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn gofyn am gytundeb ar gyfer pennu ffioedd gwasanaethau gofal a chymorth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 166.

167.

GOHEBIAETH pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol: