Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion

Cabinet - Dydd Iau, 23ain Tachwedd, 2023 2.00 pm

Lleoliad: YB 4, Neuadd y Sir, Cyfarfod Aml-Leoliad. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Deguara 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

150.

Cofnodion cyfarfod y Cabinet ar 19 Hydref 2023 pdf eicon PDF 173 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023.

151.

Monitro Cyllideb - Adroddiad 6 Mis pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.       nodi’r alldro ariannol refeniw seiliedig ar y sefyllfa ragamcanol ym Mis 6 2023/24.

 

2.       nodi’r gwariant cyfalaf a'r sefyllfa ragamcanol ym Mis 6 2023/24.

 

Cofnodion:

Cylchredwyd llythyr gan y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad.

 

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad monitro’r gyllideb mis 6 ar gyfer 2023/24.  Mae'r adroddiad yn rhoi manylion sefyllfa monitro ariannol ragamcanol 2023/24 i'r Cabinet ar ddiwedd mis Medi 2023 (mis 6).

 

Nodwyd bod y sefyllfa monitro gyffredinol ym Mis 6 yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 151.

152.

Strategaeth Ariannu Arena Dan Do pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nid yw Atodiadau 1 a 2 i’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 16 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)           cymeradwyo Strategaeth Ariannu’r Arena Dan Do fel y nodir yn yr adroddiad hwn ac yn fwy manwl ar Atodiad cyfrinachol 2.

 

2)        awdurdodi mynediad a gweithrediad y Cytundeb Datblygu a Chyllido (CDaCh) a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2023, ac wrth wneud hynny gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r ddogfennaeth gyfreithiol fel y bo'n angenrheidiol, am resymau gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i sicrhau cysondeb rhyngddynt a chwblhau unrhyw feysydd sy'n weddill o weithredoedd a dogfennau pellach sy'n ategol i'r dogfennau cyfreithiol a gymeradwywyd;  yn amodol ar ymgynghori â Swyddog A151 a Swyddogion Cyfreithiol.

 

3)        nodi y bydd goblygiadau ariannol perthnasol, yn amodol ar ymrwymo i CDaCh gyda Datblygwr/Gweithredwr yr Arena a chymeradwyaeth y Cabinet am Achos Busnes Maes Parcio Aml-lawr mewn cyfarfod yn y dyfodol, yn cael eu diweddaru yn y Cynlluniau Ariannol Tymor Canolig, Strategaethau Cyfalaf a Rheoli'r Trysorlys i fod yn gyson â'r strategaeth ariannu hon, i ffurfio amlen fforddiadwyedd ddiwygiedig.

 

4)        Nodi bod Gweithgareddau Rheoli'r Trysorlys yn cael eu dirprwyo i'r Swyddog A151 a bydd gweithredu ac adolygu'r strategaeth ariannu hon yn cael ei gweithredu fel rhan o'r diweddariadau blynyddol i'r strategaeth a'r pwyntiau gwirio mewn perthynas â'r prosiect hwn yn benodol fel rhan o adolygiad ar ôl y prosiect.

 

Cofnodion:

Nid yw Atodiadau 1 a 2 i’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 16 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dosbarthwyd llythyrau cyhoeddus a chyfrinachol gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 152.

153.

Ailgomisiynu Contract y Gwasanaeth Cynghori pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.     cymeradwyo'r dull trosfwaol ar gyfer caffael darpariaeth y Gwasanaeth Cynghori allanol.

 

2.    dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Oedolion, Tai a Chymunedau, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd, i bennu pob agwedd ar y broses gaffael (gan gynnwys pennu'r meini prawf gwerthuso i'w defnyddio, dechrau'r broses gaffael, dyfarnu'r contractau a'r holl faterion ategol sy'n ymwneud â chaffael).

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet adroddiad ynghylch ailgomisiynu contract y Gwasanaeth Cynghori.  Mae'r adroddiad yn nodi'r trefniadau caffael arfaethedig ar gyfer y contract gwasanaethau cynghori o 1 Ebrill 2024.

 

Mae'r adroddiad yn manylu ar y gwasanaethau cynghori a ddarperir gan yr awdurdod lleol ac yn nodi'r trefniadau caffael presennol ac arfaethedig.  Tynnwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 153.

154.

Cyflawni Cynnig Gwaith Ieuenctid Cynaliadwy I Gaerdydd pdf eicon PDF 237 KB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.  cytuno ar weledigaeth, egwyddorion a model gweithredu newydd ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.

 

2.  cymeradwyo’r y ffocws arfaethedig ar weithio yn lleol, i gryfhau ac integreiddio disgyblaethau gwaith ieuenctid mewn ardal leol, gan sicrhau bod timau'n ymateb i anghenion y gymuned y maent yn ei gwasanaethu.

 

3.  Nodi y bydd y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes yn darparu diweddariadau i'r Aelod(au) Cabinet perthnasol ar gyflawni'r camau gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys sicrwydd bod adnoddau'n cael eu blaenoriaethu'n briodol i fynd i'r afael ag anghenion y plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed ac sydd mewn perygl.

 

4.  Nodi y bydd uwch reolwyr yn darparu diweddariadau i'r Aelod(au) Cabinet perthnasol ar y gwaith sy'n cael ei wneud i integreiddio Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn fwy effeithiol gyda gwasanaethau ehangach i bobl ifanc.

 

Cofnodion:

Dosbarthwyd llythyr gan Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc i’r Aelodau.

 

Daeth adroddiad i law y Cabinet yn nodi'r cynigion i ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cynaliadwy i Gaerdydd.  Mae'r adroddiad yn dilyn Adolygiad Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn 2022 ac yn tynnu ar yr argymhellion sydd wedi'u cynnwys yn adroddiad yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 154.

155.

GOHEBIAETH pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol: