Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion

Cabinet - Dydd Iau, 19eg Hydref, 2023 2.00 pm

Lleoliad: YB 4, Neuadd y Sir, Cyfarfod Aml-Leoliad. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Deguara 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

140.

Cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Medi 2023 pdf eicon PDF 163 KB

Penderfyniad:

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo fel y’u diwygiwyd.

 

Cofnodion:

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo fel y’u diwygiwyd.

 

141.

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion: Lleoedd mewn Ysgolion Cynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd pdf eicon PDF 353 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Chris Weaver a Norma Mackie fuddiant personol a rhagfarnol yn yr eitem hon, fel Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Gladstone, gadawodd y Cynghorwyr Weaver a Mackie yr ystafell er mwyn i’r eitem hon gael ei hystyried.

 

Datganodd y Cynghorydd Burke fuddiant personol yn yr eitem hon, gan fod ei phlant yn mynd i ysgol mewn ward yr effeithir arni.

Datganodd y Cynghorydd Merry fuddiant personol yn yr eitem hon, gan ei bod yn aelod ward dros yr ardal.

Datganodd y Cynghorydd Sangani fuddiant personol yn yr eitem hon, gan ei bod yn aelod ward dros ardal yr effeithir arni.

 

 PENDERFYNWYD:

 

1.    bod yr ystyriaeth gan Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i drosglwyddo Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol, o fis Medi 2025, yn cael ei nodi.

 

2.    Yn amodol ar gytundeb Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i fwrw ymlaen i gyhoeddi’r cynigion, bod Swyddogion yn cael awdurdodiad i fwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ar gynigion i:

 

·                    Drosglwyddo Ysgol Mynydd Bychan i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank.

·                    Cynyddu capasiti Ysgol Mynydd Bychan o 192 o leoedd (0.9DM) i 420 o leoedd (2DM), a chynyddu nifer y lleoedd meithrin yn Ysgol Mynydd Bychan o 64 i 96.

·                    Cyfuno Ysgolion Cynradd Allensbank a Gladstone:

·                    Cau Ysgol Gynradd Allensbank yn ffurfiol. 

·                    Cau Ysgol Gynradd Gladstone yn ffurfiol.

·                    Sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd â 420 o leoedd (2DM) gyda dosbarth meithrin ar safle presennol Ysgol Gynradd Gladstone / Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica a rennir ar hyn o bryd.

 

Byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2025.

 

3.        Noder, cyn gweithredu'r cynigion, bod yn rhaid nodi adnoddau ariannol i hwyluso proses newid sefydliadol o sefydlu'r ysgol gynradd dau ddosbarth mynediad newydd a throsglwyddo Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica.

 

4.        Dylid nodi, cyn rhoi’r cynigion ar waith, y bydd adroddiad pellach yn cael ei roi i’r Cabinet yn nodi manylion unrhyw wrthwynebiad a dderbyniwyd, yr ymatebion arfaethedig i’r gwrthwynebiadau hynny ac argymhellion i weithredu’r cynigion neu fel arall, a ffynonellau ariannu ar gyfer y set lawn o gynigion.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Chris Weaver a Norma Mackie fuddiant personol a rhagfarnol yn yr eitem hon, oherwydd eu bod yn Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Gladstone, gadawodd y Cynghorwyr Weaver a Mackie yr ystafell er mwyn i’r eitem hon gael ei hystyried.

 

Datganodd y Cynghorydd Burke fuddiant personol yn yr eitem  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 141.

142.

Contract Haplogi Cerbydau Fflyd pdf eicon PDF 129 KB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1)        bod proses gaffael gofyniad llogi cerbydau Fflyd y Cyngor yn ôl y galw drwy Fframwaith Cyflenwi Masnachol Llywodraeth Cymru (WGCD) ar gyfer darparu cerbydau i’w llogi yn ôl y galw WGCD Cyf: NPS-FT-0110-2 yn cael ei gymeradwyo.

 

2)        bod y meini prawf gwerthuso lefel uchel a nodir yn yr adroddiad ar gyfer y dyfarniad uniongyrchol i un cyflenwr ar gyfer lotiau 1 a 2 gyda Lot 3 yn rhedeg fel cystadleuaeth fach pan fydd angen cerbyd o'r math hwn yn cael eu cymeradwyo.

 

3)        Bod awdurdod yn cael ei roi i benderfynu ar ac ymdrin â phob agwedd ar y broses gaffael a materion ategol hyd at ac yn cynnwys dyfarnu'r contract i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a'r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i ddechrau ymarfer caffael ar gyfer llogi cerbydau yn y fan a'r lle drwy Fframwaith Cyflenwi Masnachol Llywodraeth Cymru.   Amcangyfrif gwerth y contract yw £6.1m.

 

Nodwyd bod y Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog (GTC) yn darparu cyfleusterau llogi ar gyfer pob adran ar draws  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 142.

143.

Caffael Tanwydd Hylif pdf eicon PDF 141 KB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1)        bod y broses gaffael trwy gystadleuaeth fach ar gyfer cyflenwi tanwydd hylif ar gyfer fflyd y Cyngor drwy fframwaith Gwasanaethau Caffael Cenedlaethol WGCD -FT-0122-23 am gyfnod hyd at 12 Ebrill 2027 yn cael ei gymeradwyo.

 

2)       Bod y meini prawf gwerthuso lefel uchel a nodir yn yr adroddiad hwn yn cael eu cymeradwyo.

 

3)        Bod awdurdod yn cael ei roi i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a'r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol i benderfynu ac ymdrin yn gyffredinol â phob agwedd ar y broses gaffael a materion ategol hyd at ac yn cynnwys dyfarnu’r contract.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn gofyn am awdurdodiad i ddechrau ymarfer caffael mewn perthynas â chaffael tanwydd hylif ar gyfer y Cyngor.  Nodwyd bod y trefniadau blaenorol wedi dod i ben yn ystod y pandemig, a bod trefniadau dros dro yn dod i ben ar 1 Chwefror 2024.  Bydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 143.

144.

Ailddatblygiad Band B Campws Cymunedol Y Tyllgoed pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Atodiadau 2 a 4 yr adroddiad hwn wedi’u heithrio o’u cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r natur a ddisgrifir ym mharagraffau 14 a 21 Rhan 4 o atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac yn holl amgylchiadau'r achos, mae budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn fwy na budd y cyhoedd o ran datgelu’r wybodaeth, ac wedi’i eithrio o’i ddatgelu gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth yn unol â pharagraff 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Datganodd y Cynghorydd Peter Bradbury fuddiant personol yn yr eitem hon fel Llywodraethwr yn Ffederasiwn Dysgu’r Gorllewin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)        yn amodol ar gymeradwyaeth y Gweinidog, awdurdodi’r arian o Raglen Band B Cymunedau Dysgu Cynaliadwy y Cyngor (a amlinellir yn Atodiad 2 sydd yn Gyfrinachol) yr Achos Busnes Terfynol, i gael ei ddefnyddio i alluogi dechrau’r prif waith sydd ei angen i symud ymlaen â Champws Cymunedol y Tyllgoed.

 

(ii)      nodi’r ymrwymiad a wnaed ar gyfer y gorchmynion gwaith cynnar i symud y prosiect sydd mewn perygl ymlaen cyn ymrwymo i gontract. 

Cofnodion:

Mae Atodiadau 2 a 4 yr adroddiad hwn wedi’u heithrio o’u cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r natur a ddisgrifir ym mharagraffau 14 a 21 Rhan 4 o atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac yn holl amgylchiadau'r achos, mae budd y cyhoedd o ran cynnal yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 144.

145.

Tendr ar gyfer Polisïau Yswiriant y Cyngor gan gynnwys Ymdrin â Hawliadau o 1 Ebrill 2024 pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad hwn wedi’u heithrio rhag eu cyhoeddi yn dilyn darpariaethau Atodlen 12A Rhan 4 Paragraff 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

 

PENDERFYNWYD:

 

1.        awdurdodi’r gwahoddiad tendrau trwy DPS Yswiriant YPO ar gyfer polisïau yswiriant y Cyngor gan gynnwys gwasanaethau Atebolrwydd, Modur, Eiddo ac Amrywiol a delio â hawliadau am gyfnod cychwynnol o 3 blynedd o 1 Ebrill 2024 gydag opsiwn i ymestyn am gyfnod pellach o hyd at 2 flynedd yn unol â Rheolau'r Weithdrefn Gontractau. 

 

2)       bod y meini prawf gwerthuso lefel uchel a nodir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.

 

3)        Bod awdurdod yn cael ei roi i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, i benderfynu ar ac ymdrin â phob agwedd ar y broses gaffael (yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i ddadansoddiad o’r meini prawf gwerthuso a chyhoeddi dogfennaeth) a materion ategol hyd at ac yn cynnwys dyfarnu'r contract.

 

Cofnodion:

Mae Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad hwn wedi’u heithrio rhag eu cyhoeddi yn dilyn darpariaethau Atodlen 12A Rhan 4 Paragraff 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn ceisio awdurdodiad i wahodd tendrau ar gyfer adnewyddu polisïau yswiriant y Cyngor, gan gynnwys trin hawliadau.

 

Nodwyd iddynt  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 145.

146.

Adroddiad Cwynion Blynyddol pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: y byddai cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi.

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet yr adroddiad Cwynion a Chanmoliaeth Blynyddol ar gyfer y cyfnod 2022-2023.  Nodwyd bod cyfanswm o 3,071 o gwynion (Corfforaethol) wedi'u cofnodi. Gostyngiad 15.5% ar y flwyddyn flaenorol.  Daeth cyfanswm o 1,265 o ganmoliaethau i law hefyd. Mae hyn yn ostyngiad o 14.9% o’r flwyddyn flaenorol, pan gofnodwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 146.

147.

Adroddiad Monitro Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd Blynyddol pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: y câi seithfed Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol ei gymeradwyo i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2023. 

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet Seithfed Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd  Nodwyd bod Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd (2006 i 2026) wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor ar 28 Ionawr 2016. Fel rhan o'r broses cynllun datblygu statudol, mae'n ofynnol i'r Cyngor baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) a'i gyflwyno i Lywodraeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 147.

148.

Correspondences pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol: