Lleoliad: Neuadd y Sir
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2018 PDF 138 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd
Cofnodion: PENDERFYNWYD: cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2018
|
|
Cais i Godi Pris Teithiau Cerbyd Hacni PDF 121 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. nodi cynnwys yr adroddiad a sylwadau ddaeth i law yn Atodiad B i ystyried y penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 14 Rhagfyr 2017 i ddiwygio’r tabl ffioedd.
2. cymeradwyo’r cais a gyflwynwyd gan Dragon Taxis gyda dyddiad gweithredu o 12 Mawrth 2018.
Cofnodion: Yn dilyn yr adroddiad a ystyriwyd gan y Cabinet ar 14 Rhagfyr 2017 mewn perthynas â chais a roddwyd gerbron gan Dragon Taxis i amrywio’r ffioedd am gerbydau hacni yng Nghaerdydd, derbyniodd y Cabinet adroddiad arall yn amlinellu'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod rhybudd cyhoeddus statudol. Nodwyd y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 75. |
|
Adolygiad o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref PDF 124 KB Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. awdurdodi paratoi achos busnes ar ofynion posibl yn y dyfodol i wasanaethau CAGC ychwanegol yng Nghaerdydd ac i ganfyddiadau’r achos busnes gael eu cyflwyno i gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol i’w hystyried.
2. dechrau gwerthuso opsiynau safle i nodi lleoliad a ffefrir o bosibl yn y dyfodol ar gyfer cyfleusterau CAGC ychwanegol ac i’r canfyddiadau gael eu cyflwyno i gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol i’w hystyried.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Merry fuddiant personol yn yr eitem hon oherwydd bod Heol Wedal yn ei ward hi.
Datganodd y Cynghorydd Weaver fuddiant personol yn yr eitem hon oherwydd bod Heol Wedal yn ei ward ef.
Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn ceisio awdurdod i archwilio'r achos busnes dros ddarparu Canolfannau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 76. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiad 11(d) wedi’i eithrio rhag cael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD: wedi ystyried sylwadau’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn perthynas â chadernid y gyllideb a digonoldeb arian wrth gefn fel sy’n angenrheidiol dan Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003, ac wedi ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r Ymgynghoriad ar y Gyllideb yr argymhellir y Cyngor i:
1.0 Gymeradwyo’r cyllidebau Refeniw, Cyfalaf, Cyfrif Refeniw Tai gan gynnwys yr holl gynigion a chynyddu’r Dreth Gyngor gan 5.0% fel y nodir yn yr adroddiad hwn a bod y Cyngor yn cadarnhau y termau canlynol.
2.0 Nodi i’r Cyngor yn y cyfarfod ar 14 Rhagfyr 2017 gyfrif y symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2018/19 yn unol â’r rheoliadau a wnaed dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-
a) 143,453 – sef y swm a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, fel sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.
b) Llys-faen 2,350 Pentyrch 3,263 Radur 3,709 Sain Ffagan 1,311 Hen Bentref Llaneirwg 1,543 Tongwynlais 823
sef y symiau a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 6 y Rheoliadau fel symiau sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer aneddiadau yn y rhannau hynny o’r ardal y mae eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.
2.1 Cytuno bod y symiau canlynol bellach yn cael eu cyfrif gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar gyfer y flwyddyn 2018/19 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Gyllid Llywodraeth Leol 1992:-
a) Cyfansymio’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) i (d) (gan gynnwys praeseptau’r Cyngor Cymuned sy’n dod i £366,815). £1,007,699,815
b) Cyfansymio’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) a (c). £401,119,579
c) Y swm y mae’r cyfanswm yn 2.1(a) y fwy na’r cyfanswm yn 2.1(b) uchod a gyfrifwyd yn unol ag Adran 32(4) fel y gofyniad ar gyfer y gyllideb ar gyfer y flwyddyn. £606,580,236
d) Cyfansymio’r symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y cânt eu talu yn ystod y flwyddyn i Gronfa’r Cyngor mewn perthynas â’r Grant Cynnal Refeniw, cynllun gostyngiad treth gyngor, Ardrethi Annomestig wedi’u hailddosbarthu. £440,946,781
e) Y swm ar 2.1(c) uchod ond gan dynnu swm 2.1(d) (net y swm ar gyfer rhyddhad diamod o £350,000), i gyd wedi’u rhannu gan y swm ar 2.0(a) uchod, wedi’i gyfrifo yn unol ag Adran 33(1) fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn. £1,157.06
f) Cyfansymio swm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1). £366,815
g) Swm 2.1(e) uchod ond gan dynnu y canlyniad a geir trwy rannu swm 2.1(f) uchod gan swm 2.0(a) uchod, yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer aneddiadau yn y rhannau hynny o’r ardal lle ... view the full Penderfyniad text for item 77. Cofnodion: Ni fydd Atodiad 11(d) yn cael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Datganodd y Cynghorydd Bradbury fuddiant personol yn yr eitem gan ei fod yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 77. |
|
Monitro Cyllideb – Adroddiad Mis 9 PDF 328 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. fod sefyllfa alldro posib ar sail naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol i gael ei nodi.
2. atgyfnerthu’r gofyniad i’r holl gyfarwyddiaethau sydd ar hyn o bryd yn cofnodi gorwario fel y nodir yn yr adroddiad hwn, i weithredu i leihau’r gorwariant a ragwelir.
Cofnodion: Cafodd y Cabinet newyddion am sefyllfa monitro ariannol yr awdurdod ar sail naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol. Adroddwyd bod monitro refeniw ym mis naw’r Cyngor yn dangos sefyllfa gytbwys yn unol â sefyllfa mis chwech. Bu, fodd bynnag, newidiadau o fewn y sefyllfa gyffredinol gan gynnwys cynnydd yn y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 78. |
|
Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 PDF 195 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, cyflawni ymrwymiadau a blaenoriaethau allweddol yn Chwarter 3, a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i’r afael â heriau sy'n wynebu'r Cyngor. Cofnodion: Cafodd y Cyngor adroddiad perfformiad Chwarter 3 (mis Hydref tan fis Rhagfyr) blwyddyn ariannol 17-18. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad perfformiad gan y gyfarwyddiaeth ynghyd â throsolwg o berfformiad corfforaethol yn cynnwys cyfraddau absenoldeb salwch, cydymffurfio ag adolygiadau personol, ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a bodlondeb cwsmer. Nodwyd bod 59% o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 79. |
|
Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol PDF 135 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo’r Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol.
2. fod y Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol hefyd yn gweithredu fel Polisi Cyflogaeth Moesegol y Cyngor ar gyfer cadwyni cyflenwi’r Cyngor.
Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet adroddiad ar gynnig am Bolisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol. Nod y polisi yw darparu fframwaith cyffredinol ar gyfer cyflwyno tri o fentrau Llywodraeth Cymru; Buddion Cymunedol, Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a Siart Caffael Cyfeillgar i Fusnesau Bach a Chanolig.
Nod y polisi yw sicrhau bod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 80. |
|
Cynllun Rheol Tir ac Eiddo Corfforaethol 2018/19 PDF 113 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Corfforaethol Rheoli Tir ac Eiddo 2018/19 a atodir i Atodiad 1 yr adroddiad.
Cofnodion: Derbyniodd y Cabinet Gynllun Rheoli Tir ac Eiddo Corfforaethol y Cyngor 2018/19. Mae’r Cynllun yn ddogfen flynyddol i roi Strategaeth Eiddo Corfforaethol ar waith. Mae’r targedau blynyddol yn y Cynllun yn cyfrannu at dargedau pum mlynedd yn y Strategaeth Eiddo a nodir amcanion ar gyfer yr ystâd weithredol yn glir. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 81. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nid ddylid cyhoeddi Atodiadau 1, 3 a 4 gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 a 21 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972. PENDERFYNWYD:
cymeradwyo’r lleoliad a ffefrir i’r project arena dan do fel y nodir yn yr adroddiad, a dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a'r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i:
(i) Ddatblygu strategaeth gyflawni fanwl i’r project arena dan do gan gynnwys goblygiadau ariannol manwl i’r Cyngor a dychwelyd i’r Cabinet i gael yr awdurdod i fwrw ymlaen.
(ii) Fel rhan o (i) uchod, negodi telerau i gaffael tir nad yw'n eiddo'r Cyngor ar hyn o bryd, sy'n goch ar y cynllun safle a atodir yn Atodiad 5, a dychwelyd i'r Cabinet i gael yr awdurdod i fwrw ymlaen â phrynu’r safle.
Cofnodion:
Ni fydd Atodiadau 1, 3 a 4 yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Eithriwyd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 82. |
|
Tir wrth Gyffordd 30 yr M4 PDF 137 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni ddylid cyhoeddi Atodiadau 3 a 4 yr adroddiad hwn am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio o’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 ran 4 a pharagraff 21 rhan 6 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD cytuno ar brynu’r safle ger Cyffordd 30 yr M4 fel yr amlinellir yn Atodiad 1.
Cofnodion: Ni chyhoeddir Atodiadau 3 a 4 yr adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn nodi cynigion i brynu tir wrth ochr Cyffordd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 83. |
|
Trafnidiaeth Teithwyr PDF 153 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 16 Rhan 4 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. awdurdodi’r strategaeth gyffredinol arfaethedig i gaffael Contractau Trafnidiaeth Teithwyr am 7 mlynedd gwerth £49M drwy System Brynu Ddeinamig.
2. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr y Gyfraith a Llywodraethiant i gynnal pob agwedd ar y broses gaffael, yn ddigyfyngiad ac i gynnwys:
i. cymeradwyo sefydlu System Brynu Ddeinamig (SBD) newydd ii. cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso tendr i sefydlu’r SBD newydd iii. penodi darparwyr newydd i’r SBD newydd ar ôl iddynt fodloni’r meini prawf dethol a nodir gan y Cyngor iv. dirprwyo ymhellach yr awdurdod i ddyfarnu contractau sy’n ofynnol dros oes y SBD newydd, ac i’r dirprwyaethau pellach fod yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor. v. delio â’r holl faterion cysylltiedig sy’n ymwneud â gwneud unrhyw estyniadau byrdymor i gontractau unigol y gallai fod eu hangen nes i gontractau newydd gael eu caffael dan y SBD newydd
Mae’r ddirprwyaeth a geisir yn eang ac yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, yr agweddau canlynol ar y broses gaffael:
(a) Cymeradwyo rhoi’r SBD newydd ar waith gan ddefnyddio rheolau Gweithdrefn Tendro Cyfyngedig Addasedig. (b) Cytuno i ddefnyddio cyfuniad o e-arwerthiannau seiliedig ar filltiredd ac e-arwerthiannau am yn ôl i ddyrannu llwybrau penodol ar y pris mwyaf cystadleuol a gaiff ei gynnig drwy SBD. (c) Penodi darparwyr gwasanaeth newydd i’r SBD, ar ôl iddynt fodloni’r meini prawf dethol fel y nodir gan y cyngor yn y dogfennau tendro, yn ôl y gofyn. (d) Ar ôl hynny, y Cyfarwyddwr i ddirprwyo ymhellach yr awdurdod i ddyfarnu contractau sy’n ofynnol dros oes yr SBD newydd, ac i ddirprwyaethau pellach fod yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor. (e) Os, am unrhyw reswm technegol, nad oes modd defnyddio system gwbl electronig (SBD), i gynnal y broses gaffael drwy ddull arall (dull nad yw’n e-gaffael) a rheoli’r trefniadau contract a roddwyd ar waith.
Cofnodion:
Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 16 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 Ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn manylu ar strategaeth i dendro contractau newydd cysylltiedig â gwasanaethau Trafnidiaeth. Mae Gwasanaethau Trafnidiaeth i Deithwyr yn darparu ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 84. |