Mater - cyfarfodydd

Cynigion Trefniadau Ysgol: Gwella darpariaeth arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol 2018-19

Cyfarfod: 05/07/2018 - Cabinet (Eitem 13)

13 Cynigion Trefniadaeth Ysgolion: Gwella darpariaeth arbenigol i Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol 2018-19 pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr yr adroddiad heb eu newid.

 

2.   Yn dibynnu ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, cymeradwyo‘r cynnig i ymestyn yr ystod oedran yn Greenhill o 11 - 16 i  11 - 19 (mae angen penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wneud hyn)

 

3.   Yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu Ysgol yr Forwyn Fair: cynnwys adeiladau CAA yng nghynllun Band B ar gyfer adeiladau newydd Ysgol y Forwyn Fair.

 

4.   awdurdodi swyddogion i gymryd camau priodol i weithredu'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr adroddiad.

 

5.   awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r penderfyniad ymhen 7 diwrnod ar ôl penderfynu ar y cynnig.

 

6.   dirprwyo gwaith cymeradwyo unrhyw gontractau angenrheidiol i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, wedi ymgynghori â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Aelodau Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad ac Addysg a Sgiliau.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Bradbury fuddiant personol fel Llywodraethwr yn Ysgol T? Gwyn

 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn rhoi gwybod nad oes unrhyw wrthwynebiadau i’r hysbysiadau statudol sy’n ymwneud â chynigion i gynyddu darpariaeth arbenigol i blant a phobl ifanc wedi’u derbyn.  Byddai’r cynigion yn helpu i fynd i’r afael ag  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13