71 Cynllun Cyflenwi Lleol Cefnogi Pobl PDF 179 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cynllun Cyflenwi Lleol Cefnogi Pobl
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo’r Cynllun Cyflenwi a Gwariant Lleol Cefnogi Pobl fel a nodir yn Atodiad A i'r adroddiad
2. nodi'r cynnydd o ran ail-gomisiynu gwasanaethau cam un, a chytuno ar y dull gwahanol mewn perthynas â gwasanaethau cymorth yn ôl yr angen i bobl h?n
3. cytuno ar y dull cyffredinol arfaethedig o ran ail-gomisiynu gwasanaethau llety a chymorth i bobl ifanc fel a nodir yng nghorff yr adroddiad
4. rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Cymunedau, Tai a Gwasanaethau Cwsmeriaid ar y cyd â'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, Swyddog Adran 151 y Cyngor, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol i ymdrin â phob agwedd ar ail-gomisiynu gwasanaethau llety a chymorth i bobl ifanc fel y nodir yng nghorff yr adroddiad, hyd at a chan gynnwys dyfarnu contractau a phob mater cysylltiedig yn ymwneud â’r un peth.
5. Nodi bod bwriad i gyflwyno mwy o adroddiadau i’r Cabinet i geisio awdurdodaeth i ddechrau’r prosesau caffael i’r gwasanaethau eraill gael eu comisiynu yn rhan o gamau 2, a'r gwasanaethau cam 3, pan a phryd y caiff y strategaethau caffael manwl eu datblygu.
Cofnodion:
Daeth y cynllun Gwario a Chyflenwi Lleol Cefnogi Pobl 2018/2019 i law ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran ail-gomisiynu’r gwasanaethau llety a chymorth. Ystyriodd y Cabinet hefyd ymagwedd ddiwygiedig ar wasanaethau cymorth yn ôl yr angen i bobl h?n ac ar ail-gomisiynu'r gwasanaethau llety ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 71