Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Director of Housing, Communities & Customer Services
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
CYTUNWYD: cymeradwyo’r Polisi Ffioedd diwygiedig (Atodiad 1 i’r adroddiad) mewn perthynas â’r canlynol:
a) Cofrestru Landlordiaid
b) Trwyddedu Landlordiaid
c) Trwyddedu Asiantau
d) Cymeradwyo Cyrsiau
e) Awdurdodi Darparwr Hyfforddiant
f) Darparu Cwrs
Naill ai 1 Ebrill 2018 fydd y dyddiad y daw’r newidiadau i rym, neu’r dyddiad yr ailosodir y system, yr hwyraf o’r ddau.
Rhaid i’r Cyngor roi polisi ffioedd ar waith i gyflawni ei gyfrifoldebau yn sgil cael y rôl Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru dan
Mewn penderfyniad diweddar yn achos Hemming v San Steffan, gwnaethpwyd yn glir y gallai awdurdodau lleol bennu eu ffioedd ar lefel a fyddai’n eu galluogi i adfer costau rheoli a gorfodi’r system drwyddedu gan gynnwys costau am ddwyn achosion yn erbyn gweithredwyr heb drwydded. Serch hynny, eglurwyd gan benderfyniad Llys Cyfiawnder Ewrop y dylai Awdurdodau Trwyddedu strwythuro eu ffioedd er mwyn casglu eu ffioedd ar adeg briodol er mwyn sicrhau nad yw’r ymgeisydd ar golled ariannol. Mae hynny bellach yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Caerdydd ddiwygio’r polisi ffioedd a rhoi’r cyfle i gwsmeriaid i dalu eu ffioedd mewn dwy ran.
Dyddiad cyhoeddi: 02/05/2018
Dyddiad y penderfyniad: 13/02/2018
Effeithiol O: 14/03/2018