Manylion y penderfyniad

Cynllun Busnes Cytundeb Cydweithio Bargen Ddinesig Peifddinas Ranbarth Caerdydd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas yr adroddiad wnaeth geisio cymeradwyaeth ar Gynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd oedd yn canolbwyntio ar yr agweddau oedd yn ymwneud â chyflawni uchelgeisiau'r Cyngor drwy'r Fargen Ddinesig a phrojectau i greu cyfleoedd economaidd a chynyddu cynhyrchedd ledled ôl-troed rhanbarthol de-ddwyrain Cymru.

 

Ym mis Ionawr 2017, gwnaeth Arweinydd y cyn-weinyddiaeth ymrwymo i adrodd i'r Cyngor ymhellach ar gyfraniadau'r Cyngor i'r Fargen Ddinesig, a bydd y Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd hwn yn rhoi’r manylion i’r Aelodau a’r prif brojectau ynghyd ag eglurder ar gyfeiriad y gwariant.

 

Yn gritigol i Gaerdydd, mae’r Cynllun Busnes yn cynnwys ymrwymiad mewn egwyddor ar gyfer y Metro, rhan hanfodol o seilwaith i'r ddinas a'r rhanbarth, sydd â'r nod o drosoli £2bn o fuddsoddiad datblygiad masnachol preifat.  Mae hefyd buddsoddiadau i dai, sgiliau a’r agenda digidol fydd yn elwa pob awdurdod ledled y Brifddinas-ranbarth.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd na fyddai cymeradwyo’r Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd yn dirprwyo unrhyw bwerau pellach i’r Cydbwyllgor na’r rhai a nodwyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2017.

 

Yr ymrwymiad i Gaerdydd oedd £50m i’r Gronfa Fuddsoddi Ehangach fyddai’n datgloi bron £500m i’r ddinas-ranbarth a galluogi mwy o integreiddiad a gweithio rhanbarthol ledled de-ddwyrain Cymru, yn gyrru ffyniant ac yn taclo anghydraddoldebau a thlodi.  

 

Cafodd yr adroddiad ei eilio gan yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Weaver wnaeth gadarnhau bod y cynnig yn rhoi eglurder ar ryddhau cyllid; yn rhoi llwyfan i benderfyniadau buddsoddi; yn torri i lawr y ffiniau cronfa strwythurol artiffisial; fyddai’n rhoi buddsoddiad o £1.2m i’r ddinas-ranbarth gan gynnwys dros £700m ar gyfer Metro De-Ddwyrain Caerdydd, ac yn canolbwyntio ar fwrw ymlaen â phryderon ynghylch ailddatblygu Gorsaf Caerdydd Canolog; ynghyd â chefnogi swyddi a sgiliau posibl a'r seilwaith ddigidol.

 

Agorodd yr Arglwydd Faer y llawr er trafodaeth.  Croesawyd y cynnydd hyd yma a gweithio trawsbleidiol a rhanbarthol.  Fodd bynnag codwyd pryderon am y diffyg democrataidd ac ymyrraeth Cynghorwyr lleol yn y broses o wneud penderfyniadau, a’i bod hi’n bwysig bod yr Arweinydd a’r Cydbwyllgor yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol a phreswylwyr gydol y rhanbarth fel eu bod nhw’n deall y cynigion yn well.  Amlygodd yr Aelodau’r diffyg manylion o ran projectau, yn benodol mewn perthynas â seilwaith a chynlluniau tai er enghraifft y Metro, y dyhead am raniad moddol 50/50, costau cyfalaf a refeniw, amserlenni ar gyfer gwireddu projectau a materion a godwyd yn flaenorol yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau ar Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd. 

 

Ymatebodd yr Arweinydd i’r sylwadau, gan gydnabod ei bod hi’n bwysig i sicrhau bod Aelodau a phobl y ddinas yn deall ac yn ymwybodol o’r projectau arfaethedig a'r effaith a'r gwelliannau tebygol fyddai'n cael eu gwneud.

 

PENDERFYNWYD – Bod y Cyngor yn cymeradwyo Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2018

Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/03/2018 - Cyngor

Dogfennau Cefnogol: