Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad hwn am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio o’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.
CYTUNWYD: meddiannu hen dafarndy’r Bulldog a’r tir cysylltiedig i’r Cyfrif Refeniw Tai at ddiben datblygu tai cymdeithasol.
Galluogi’r Is-adran Cymunedau a Thai i ddatblygu’r eiddo a’i gadw o fewn ei phortffolio i ddarparu tai cyngor newydd yn y ward. Mae galw uchel iawn am dai rhentu cymdeithasol y Cyngor ar draws pob rhan o’r ddinas ond nid oes llawer ar gael. Mae’r cam meddiannu’n dilyn prynu’r budd prydles hir sydd bellach wedi’i gyfuno â’r rhydd-ddeiliadaeth i ddarparu safle y gellir ei ddatblygu.
Dyddiad cyhoeddi: 19/03/2018
Dyddiad y penderfyniad: 13/03/2018
Effeithiol O: 29/03/2018