Manylion y penderfyniad

Adeilad llyfrgell y Rhath: Rhoi Trosglwyddiad Ased Cymunedol

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Director of Housing, Communities & Customer Services

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniad:

CYTUNWYD:

Y dylid cyflwyno’r llythyr dyfarnu ar gyfer Trosglwyddo Ased Cymunedol, sef Adeilad Llyfrgell y Rhath, i Rubicon Dance yn unol â’r broses Drosglwyddo Asedau Cymunedol ac yn unol ag Adroddiad y Cabinet ar 19 Ionawr 2017, er mwyn galluogi’r Cyngor i gychwyn trafodaethau ffurfiol ar benawdau’r telerau a’r amserlen briodol i weithredu eu cynigion.

 

 

Rhesymau dros y penderfyniad:

Yn dilyn proses werthuso drylwyr ac adolygu’r cynigion a gyflwynwyd, ystyrir mai cynnig Rubicon Dance yw’r cryfaf o ran:

 

  • Y buddiannau cymunedol iddynt ddarparu eu Gwasanaethau o’r adeilad i’r gymuned leol a’r gymuned ehangach

 

  • Eu hadnoddau ariannol i fuddsoddi’r cyfalaf y mae ei angen ar gyfer y gwaith adnewyddu, a refeniw parhaus i gynnig darpariaeth gynaliadwy yn y tymor hir

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 01/02/2018

Dyddiad y penderfyniad: 29/01/2018

Effeithiol O: 13/02/2018