Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cwestiwn gan y cyhoedd: Ms Alison Hood
Beth mae’r Cyngor yn mynd i’w wneud i helpu rhieni sengl a theuluoedd sy’n gweithio nad ydynt bellach yn gymwys ar gyfer trafnidiaeth am ddim o Bentwyn i Lanisien gan nad yw £420 y flwyddyn a thaith gerdded o bron 3 milltir ar gyfer plentyn 11 oed yn fforddiadwy neu’n ddiogel?
Ymateb: Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, Y Cynghorydd Merry
Rwy’n deall rhwystredigaeth rhieni a phlant, yn enwedig pan fydd rhaid iddynt gerdded heibio Ysgol Uwchradd arall ar y ffordd i Ysgol Uwchradd Llanisien. Mae hyn y ganlyniad i benderfyniad blaenorol y Cyngor a wnaed yn 2008 i gau Ysgol Uwchradd Llanedern, ac o ganlyniad cafodd y dalgylch ei ail-lunio. .
Cytunwyd ar y pryd i ddarparu trafnidiaeth am ddim i Ysgol Uwchradd Llanisien am gyfnod cyfyngedig a thros dro am 5 mlynedd o fis Medi 2011 oherwydd amgylchiadau cau Llanedeyrn.
Nid yw trafnidiaeth ysgol am ddim ar sail prawf modd ac ni chaiff ei darparu ar sail fforddiadwyedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu 3 milltir fel y pellter cerdded y mae'n rhaid i'r Cyngor ddarparu trafnidiaeth statudol am ddim i ddisgyblion o oedran ysgol uwchradd drosto. Cymhwysir y maen prawf hwn ledled y ddinas i gyd. Ni allwn ddarparu trafnidiaeth i un gr?p o ddisgyblion hen ei darparu i bawb.
Cwestiwn Atodol gan y Cyhoedd: Ms Alison Hood
Ydych chi’n credu bod taith dychwelyd o bron 6 milltir i’r ysgol ac yn ôl i blentyn 11 oed sydd â chlefyd y galon, nad yw'n gyfarwydd â'r ardal yn bellter dichonadwy iddo gerdded i’r ysgol ac yn ôl ar ôl diwrnod llawn yn yr ysgol, mewn tywydd gwael?
Ymateb: Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, Y Cynghorydd Merry
Fel y dywedais, mae gennyf gydymdeimlad â’r rhieni a’r plant dan sylw, ond 3 milltir yw'r pellter cerdded a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Y wir, yn Lloegr, dyma’r pellter a fernir ar gyfer plant o dan 8 oed, nid 11 oed. Dyna’r pellter a gafodd ei osod a dyna’r maen prawf y mae’n rhaid i ni weithredu y tu fewn iddo.
Dyddiad cyhoeddi: 12/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 28/09/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/09/2017 - Cyngor
Dogfennau Cefnogol: