Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Gall cerbydau niwsans greu problemau sylweddol ac yn gwylltio dinasyddion sy’n cydymffurfio â’r gyfraith. Bydd darparu’r gwasanaeth hwn yn galluogi’r cyfle i ddefnyddio pwerau’r DVLA wedi’u dirprwyo i fynd i’r afael â cherbydau heb eu trethi mewn ardaloedd cyhoeddus.
Eithrir Atodiad B yr adroddiad hwn rhag cyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth fel y disgrifir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Rhestr 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo'r polisi newydd ar gyfer clampio a symud cerbydau sy’n peri niwsans oherwydd parcio anghyfreithlon neu gerbydau heb dreth (atodiad 1)
2. bod y Cyngor yn derbyn y grymoedd a ddatganolwyd ar Reoliadau Treth Car (Atal, Symud a Gwaredu Cerbydau) 1997.
3. Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Strydlun i arwyddo’r llythyr cytundeb rhwng DVLA a Chyngor Caerdydd (Partner Pwerau a Ddatganolwyd).
Dyddiad cyhoeddi: 19/11/2018
Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/11/2018 - Cabinet
Effeithiol O: 29/11/2018
Dogfennau Cefnogol: