Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Mae angen buddsoddi i lawer o adeiladau treftadaeth y Cyngor er mwyn mynd ar ôl gwaith cynnal a chadw ynghyd â sicrhau eu cynaliadwyedd. Bydd yr adroddiad yn cynnig opsiynau i sicrhau buddsoddiad i adeiladau treftadaeth y mae’r Cyngor yn berchen arnynt
Ni fydd Atodiadau 1-3 yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
(1) dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r swyddogion perthnasol i archwilio’r amryw ddulliau sydd yn yr adroddiad hwn a'u cyflyno yng nghyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau terfynol ar bob cyfle.
(2) dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r swyddogion perthnasol i sicrhau tenant ar gyfer yr Eglwys Norwyaidd, yn dibynnu ar ddatrys yn briodol unrhyw faterion sy'n berthnasol i statws bresennol yr Ymddiriedolaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 15/11/2018
Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/11/2018 - Cabinet
Effeithiol O: 29/11/2018
Dogfennau Cefnogol: