Manylion y penderfyniad

Datganiad Polisi Tâl 2018 - 2019

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

(Datganodd Uwch Reolwyr a effeithir gan yr eitem hon ddatganiad ariannol a gadawon nhw’r cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei hystyried).

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Weaver y Datganiad Polisi blynyddol ar gyfer 2018/19 a baratowyd yn unol â gofynion Deddf Lleoliaeth 2011. Bydd y Cyngor, yn unol â’i ymrwymiad i degwch a thryloywder yn cyhoeddi’r adroddiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn rhan o’r Datganiad Polisi Cyflog erbyn 31 Mawrth 2018. 

 

Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau, eilio’r adroddiad. 

Agorodd yr Arglwydd Faer y llawr er trafodaeth.  Roedd yr aelodau’n falch o weld cyhoeddiad y wybodaeth ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau er ei bod hi’n amlwg o’r wybodaeth bod ffordd i fynd eto.  Cyflwynwyd sylwadau ynghylch y dyfarniad cyflog; pensiynau a’r buddion pensiwn, y cysylltiadau rhwng addysg a chyflogaeth. 

 

Yn ystod y ddadl, gwnaeth y Cynghorydd Williams gyflwyno Cynnig heb Rybudd dan RGC25 (iv) i gyfeirio'r adroddiad yn ôl i'r Cabinet.  Cafodd y gohiriad ei eilio gan y Cynghorydd Davies.

 

Rhoddodd yr Arglwydd Faer gyfle i'r Aelod Cabinet grynhoi cyn galw pleidlais ar y diwygiad. 

 

COLLWYD y bleidlais ar y gohirio.

 

PENDERFYNWYD –

 

1.    cymeradwyo’r Datganiad Polisi Cyflog 2018/19;

 

2.    bod cyfraniadau pensiwn y cyflogwr wedi’u cynnwys yng nghyfrifiad tâl wythnosol cyflogai, lle bo’n briodol;

 

3.    y bydd angen i’r Cyngor gymryd camau i weithredu newidiadau sy’n dod o’r NJC ar gyfer Tâl Llywodraeth Lleol ar gyfer 2018/20;

 

4.    croesawu cynnwys yr adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau;

 

5.    ymrwymo wrth egwyddorion a chanllawiau ar y defnydd priodol o drefniadau oriau na sicrheir yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig  yng Nghymru, fel y datblygwyd gan Gomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn partneriaeth gymdeithasol â Chyngor Partneriaeth Llywodraeth Cymru a’i grwpiau sector.

 

Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2018

Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/03/2018 - Cyngor

Dogfennau Cefnogol: