Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Dywedodd yr Arglwydd Faer fod hysbysiad o gynnig, wedi’i gynnig gan y Cynghorydd Thomas a’i gefnogi gan y Cynghorydd Williams, wedi'i dderbyn i’w ystyried a’i gynnwys yn y Gwysion ar gyfer y cyfarfod. Roedd un diwygiad i’r cynnig hwn.
Roedd yr Hysbysiad o Gynnig fel a ganlyn:
1) Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod chwe Chyngor Cymuned yng Nghaerdydd, sef:
· Cyngor Cymuned Llys-faen
· Cyngor Cymuned Pentref Llaneirwg
· Cyngor Cymuned Pentyrch
· Cyngor Cymuned Radur a Phentre-poeth
· Cyngor Cymuned Sain Ffagan
· Cyngor Cymuned Tongwynlais
2) Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod y gwaith caled a wneir gan aelodau swyddogion y Cynghorau Cymuned dan sylw ac yn nodi bod llawer o’r rhai sy’n cymryd rhan yn wirfoddolwyr.
3) Heb ymdrechion y Cynghorau Cymuned, byddai nifer o amwynderau lleol yn cau ac ni fyddai digwyddiadau yn y cymunedau hyn yn cael eu cynnal. Fodd bynnag, gall swyddi gwag fod yn anodd eu llenwi weithiau a gall fod diffyg ymgeiswyr yn etholiadau Cyngor Cymuned, gan arwain at ddiffyg democratiaeth.
4) Mae’r Cyngor hwn hefyd yn nodi yn hanesyddol dros lawer o flynyddoedd y bu sianeli cyfathrebu rhwng Cynghorau Cymuned a Chyngor Caerdydd yn wan neu na fu unrhyw sianeli cyfathrebu o gwbl. Mae hyn yn cynnwys anfon hysbysiadau i Gynghorau Cymuned am waith arfaethedig ar y briffordd neu gynnwys Cynghorau Cymuned yn y gwaith o benderfynu ar geisiadau cynllunio a’r dulliau gorau o ddefnyddio arian Adran 106.
5) Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet, ar y cyd â’r Cynghorau Cymuned, i ystyried sut y gellir gwella ac atgyfnerthu cysylltiadau.
6) Efallai y bydd y Cabinet am ystyried y canlynol:
(i) A oes unrhyw feysydd lle gellid cyfuno gwasanaethau (e.e. un ai y Cyngor Cymuned neu Gyngor Caerdydd yn torri glaswellt mewn ardal).
(ii) Cyflwyno un pwynt cyswllt ar gyfer Cynghorau Cymuned.
(iii) Dulliau o ymsefydlu Siarter y Cynghorau Cymuned ymhellach yng Nghyngor Caerdydd a chynyddu’r ymwybyddiaeth ohoni.
(iv) Sicrhau cyswllt rheolaidd rhwng swyddogion allweddol a Chynghorau Cymuned, gyda’r rheiny yn mynd i gyfarfodydd Cynghorau Cymuned o bryd i’w gilydd.
(v) Sut y gellir ehangu rôl Cynghorau Cymuned o ran gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio a chytundebau adran 106.
Dylai’r Cabinet gyflwyno adroddiad ar yr uchod cyn pen chwe mis.
Diwygiad 1: Cynigwyd gan y Cynghorydd Bradbury
Eiliwyd gan y Cynghorydd Stubbs
Pwynt 2 – Dileu popeth ar ôl y frawddeg gyntaf
Dileu Pwynt 3 a’i ddisodi gyda
3) Fodd bynnag mae’r Cyngor hwn yn nodi nad oedd unrhyw wrthdaro o ran seddau ym mhob etholiad Cyngor Cymuned yn 2017, ac felly ni gynhaliwyd unrhyw etholiad.
Pwynt 4 (ii) dileu’r gair ‘Cyflwyno' a'i ddisodli gyda 'Sut i wella a pharhau â'
Dileu Pwynt 4 (v)
Byddai’r Cynnig ar ôl ei ddiwygio fel a ganlyn:
1) Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod chwe Chyngor cymuned yng Nghaerdydd, sef:
· Cyngor Cymuned Llys-faen
· Cyngor Cymuned Pentref Llaneirwg
· Cyngor Cymuned Pentyrch
· Cyngor Cymuned Radur a Phentre-poeth
· Cyngor Cymuned Sain Ffagan
· Cyngor Cymuned Tongwynlais
2) Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod y gwaith caled a wneir gan aelodau swyddogion y Cynghorau Cymuned dan sylw ac yn nodi bod llawer o’r rhai sy’n cymryd rhan yn wirfoddolwyr.
3) Fodd bynnag mae’r Cyngor hwn yn nodi nad oedd unrhyw wrthdaro o ran seddau ym mhob etholiad Cyngor Cymuned yn 2017, ac felly ni gynhaliwyd unrhyw etholiad.
4) Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet, ar y cyd â’r Cynghorau Cymuned, i ystyried sut y gellir gwella ac atgyfnerthu cysylltiadau.
5) Efallai y bydd y Cabinet am ystyried y canlynol:
i) A oes unrhyw feysydd lle gellid cyfuno gwasanaethau (e.e. un ai y Cyngor Cymuned neu Gyngor Caerdydd yn torri glaswellt mewn ardal).
ii) Sut i wella a pharhau ag un pwynt cyswllt ar gyfer Cynghorau Cymuned
iii) Dulliau o ymsefydlu Siarter y Cynghorau Cymuned ymhellach yng Nghyngor Caerdydd a chynyddu’r ymwybyddiaeth ohoni.
iv) Sicrhau cyswllt rheolaidd rhwng swyddogion allweddol a Chynghorau Cymuned, gyda’r rheiny yn mynd i gyfarfodydd Cynghorau Cymuned o bryd i’w gilydd.
Dylai’r Cabinet gyflwyno adroddiad ar yr uchod.
Gwahoddodd yr Arglwydd Faer drafodaeth ar y cynnig. Ar ddiwedd y drafodaeth gwahoddodd yr Arglwydd Faer y Cynghorydd Thomas i grynhoi. Wrth grynhoi, nododd y Cynghorydd Thomas na fyddai’n derbyn unrhyw un o’r diwygiadau.
Symudodd yr Arglwydd Faer at y pleidleisiau
PASIWYD y bleidlais ar y diwygiad fel y cynigiwyd gan y Cynghorydd Bradbury.
Byddai’r cynnig terfynol fel a ganlyn:
1) Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod chwe Chyngor cymuned yng Nghaerdydd, sef:
· Cyngor Cymuned Llys-faen
· Cyngor Cymuned Pentref Llaneirwg
· Cyngor Cymuned Pentyrch
· Cyngor Cymuned Radur a Phentre-poeth
· Cyngor Cymuned Sain Ffagan
· Cyngor Cymuned Tongwynlais
2) Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod y gwaith caled a wneir gan aelodau swyddogion y Cynghorau Cymuned dan sylw ac yn nodi bod llawer o’r rhai sy’n cymryd rhan yn wirfoddolwyr.
3) Fodd bynnag mae’r Cyngor hwn yn nodi nad oedd unrhyw wrthdaro o ran seddau ym mhob etholiad Cyngor Cymuned yn 2017, ac felly ni gynhaliwyd unrhyw etholiad.
4) Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet, ar y cyd â’r Cynghorau Cymuned, i ystyried sut y gellir gwella ac atgyfnerthu cysylltiadau.
5) Efallai y bydd y Cabinet am ystyried y canlynol:
i) A oes unrhyw feysydd lle gellid cyfuno gwasanaethau (e.e. un ai y Cyngor Cymuned neu Gyngor Caerdydd yn torri glaswellt mewn ardal).
ii) Sut i wella a pharhau ag un pwynt cyswllt ar gyfer Cynghorau Cymuned
iii) Dulliau o ymsefydlu Siarter y Cynghorau Cymuned ymhellach yng Nghyngor Caerdydd a chynyddu’r ymwybyddiaeth ohoni.
iv) Sicrhau cyswllt rheolaidd rhwng swyddogion allweddol a Chynghorau Cymuned, gyda’r rheiny yn mynd i gyfarfodydd Cynghorau Cymuned o bryd i’w gilydd.
Dylai’r Cabinet gyflwyno adroddiad ar yr uchod.
Pleidleisiwyd ar y Cynnig. PASIWYD y Cynnig Terfynol.
Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/01/2018 - Cyngor
Dogfennau Cefnogol: