Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Defnyddiodd yr Arglwydd Faer ei ddisgresiwn i addasu trefn yr agenda i adael i Gynnig 3 gael ei glywed gyntaf.
Dywedodd yr Arglwydd Faer fod hysbysiad o gynnig, wedi’i gynnig gan y Cynghorydd Bablin Molik a’i gefnogi gan y Cynghorydd Joe Carter, wedi'i dderbyn i’w ystyried a’i gynnwys yn y Gwysion ar gyfer y cyfarfod. Derbyniwyd dau ddiwygiad i’r cynnig.
Roedd yr Hysbysiad o Gynnig fel a ganlyn:
Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:
Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i wneud y canlynol:
Llunio strategaeth i fynd i’r afael ag unigrwydd yng Nghaerdydd gan roi ystyriaeth i’r canlynol:
Diwygiad 1: Cynigwyd gan y Cynghorydd Jayne Cowan
Eiliwyd gan y Cynghorydd David Walker
Ychwanegu brawddeg ychwanegol ar y dechrau fel a ganlyn:
“Mae’r Prif Weinidog yn ddiweddar wedi penodi Gweinidog Unigrwydd i daclo’r materion cymdeithasol ac iechyd a achosir gan allgáu cymdeithasol, gyda chronfa werth miliynau o bunnoedd”
Diwygio’r Canlyniad gan ychwanegu “dod ag adroddiad yn ôl i’r Cyngor Llawn ym mis Medi 2018" ar ôl Mae'r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i
Ychwanegu dau bwynt bwled yn syth ar ôl y canlyniad diwygiedig fel a ganlyn:
Byddai’r Cynnig ar ôl ei ddiwygio fel a ganlyn:
Mae’r Prif Weinidog yn ddiweddar wedi penodi Gweinidog Unigrwydd i daclo’r materion cymdeithasol ac iechyd a achosir gan allgáu cymdeithasol, gyda chronfa werth miliynau o bunnoedd.
Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:
Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i ddod yn ôl i’r Cyngor llawn erbyn mis Medi 2018:
Datblygu strategaeth i fynd i’r afael ag unigrwydd yng Nghaerdydd gan roi ystyriaeth i’r canlynol:
Diwygiad 2: Cynigwyd gan y Cynghorydd Susan Elsmore
Eiliwyd gan y Cynghorydd Lynda Thorne
Pwynt Bwled 1 – ail frawddeg ar ôl y geiriau gyfystyr ag ychwanegu "oddeutu"
Pwynt Bwled 2 – ailenwi fel a ganlyn:
Dileu Pwynt Bwled 3
Pwynt Bwled 4 - llinell gyntaf ar ôl ymchwil, dileu wedi a disodli gyda "yn dangos"
Pwynt Bwled 4 ar ddiwedd y frawddeg nodi ffynhonnell (Holt-Lunstad 2015);
Pwynt Bwled 6 - disodli gyda “Mae gan bob sector, gan gynnwys y trydydd sector, rôl hanfodol i'w chwarae o ran hyrwyddo a chynnig gwasanaethau sy'n helpu i fynd ar ôl unigedd ac allgau;"
Pwynt Bwled 7 - dileu popeth ar ôl llesiant
Dileu popeth ar ôl Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i: tan pwynt bwled 4 a disodli gyda
Parhau i ddatblygu a chydlynu’r strategaethau hynny i daclo unigedd yng Nghaerdydd, gan gynnwys:
(i) Cymorth i bobl h?n a grwpiau cymunedol i ddatblygu a chyflawni datrysiadau lleol sy'n gwrthwneud unigedd, er enghraifft y Strategaeth Cyfleoedd Dydd;
(ii) Gweithio gyda chymunedau ledled cenedlaethau i feithrin strwythurau anffurfiol sy’n galluogi pobl i gymryd rhan mewn cymdeithas ar eu telerau eu hunain, er enghraifft Gwasanaethau Ataliol, mewn partneriaeth â Sefydliad Dinas Caerdydd, sydd wedi creu project llythrennedd pontio'r cenedlaethau am yr ail flwyddyn yn olynol ar y cyd â phedair ysgol gynradd a phobl h?n.
(iii) Mae’r Gwasanaethau Oedolion, drwy Bartneriaeth Iachus ac Actif (HAP), yn comisiynu ymyriadau targedig o ran atal mynediad diangen at wasanaethau iechyd statudol, neu wasanaethau gofal cymdeithasol neu i atal neu ohirio cynnydd mewn ymyriad pecynnau gofal presennol.
(iv) Mae hwn yn wasanaeth yn seiliedig ar wirfoddolwyr sy’n mynd ar ôl allgáu cymdeithasol ac unigrwydd rwy annog a chefnogi unigolion i gael mynediad at gyfleusterau cymunedol a gweithgareddau fyddai o ddiddordeb iddyn nhw.
(v) Ystyried ffyrdd arloesol i gefnogi grwpiau cymunedol drwy annog defnydd o gyfleusterau’r Cyngor, er enghraifft llyfrgelloedd a hybiau ar gyfer Dydd Mercher Llesiant;
Byddai’r Cynnig ar ôl ei ddiwygio fel a ganlyn:
Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:
Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet:

(iii) Mae’r Gwasanaethau Oedolion, drwy Bartneriaeth Iachus ac Actif (HAP), yn comisiynu ymyriadau targedig o ran atal mynediad diangen at wasanaethau iechyd statudol, neu wasanaethau gofal cymdeithasol neu i atal neu ohirio cynnydd mewn ymyriad pecynnau gofal presennol. Mae hwn yn wasanaeth yn seiliedig ar wirfoddolwyr sy’n mynd ar ôl allgáu cymdeithasol ac unigrwydd rwy annog a chefnogi unigolion i gael mynediad at gyfleusterau cymunedol a gweithgareddau fyddai o ddiddordeb iddyn nhw.
(iv) Ystyried ffyrdd arloesol i gefnogi grwpiau cymunedol drwy annog defnydd o gyfleusterau’r Cyngor, er enghraifft llyfrgelloedd a hybiau ar gyfer Dydd Mercher Llesiant;
(v) Annog ysgolion, colegau a phrifysgolion i greu diwylliant sy'n gwirfoddoli ymhlith eu myfyrwyr er mwyn mynd i’r afael a’r blwch rhwng y cenedlaethau ac annog ymgysylltiad a chyfranogiad.
Gwahoddodd yr Arglwydd Faer drafodaeth ar y cynnig. Ar ddiwedd y drafodaeth gwahoddodd yr Arglwydd Faer y Cynghorydd Molik i grynhoi. Wrth grynhoi, nododd y Cynghorydd Molik na fyddai’n derbyn unrhyw un o’r diwygiadau.
Symudodd yr Arglwydd Faer at y pleidleisiau.
Cynhaliwyd pleidlais ar Ddiwygiad 1 a gynhigiodd y Cynghorydd Cowan. COLLWYD y bleidlais.
Cynhaliwyd pleidlais ar Ddiwygiad 2 a gynhigiodd y Cynghorydd Elsmore. PASIWYD y bleidlais.
Byddai’r cynnig terfynol fel a ganlyn:
Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:
Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet:
Parhau i ddatblygu a chydlynu’r strategaethau hynny i daclo unigedd yng Nghaerdydd, gan gynnwys:
(i) Cymorth i bobl h?n a grwpiau cymunedol i ddatblygu a chyflawni datrysiadau lleol sy'n gwrthwneud unigedd, er enghraifft y Strategaeth Cyfleoedd Dydd;
(ii) Gweithio gyda chymunedau ledled cenedlaethau i feithrin strwythurau anffurfiol sy’n galluogi pobl i gymryd rhan mewn cymdeithas ar eu telerau eu hunain, er enghraifft Gwasanaethau Ataliol, mewn partneriaeth â Sefydliad Dinas Caerdydd, sydd wedi creu project llythrennedd pontio'r cenedlaethau am yr ail flwyddyn yn olynol ar y cyd â phedair ysgol gynradd a phobl h?n.
(iii) Mae’r Gwasanaethau Oedolion, drwy Bartneriaeth Iachus ac Actif (HAP), yn comisiynu ymyriadau targedig o ran atal mynediad diangen at wasanaethau iechyd statudol, neu wasanaethau gofal cymdeithasol neu i atal neu ohirio cynnydd mewn ymyriad pecynnau gofal presennol.
(iv) Mae hwn yn wasanaeth yn seiliedig ar wirfoddolwyr sy’n mynd ar ôl allgáu cymdeithasol ac unigrwydd rwy annog a chefnogi unigolion i gael mynediad at gyfleusterau cymunedol a gweithgareddau fyddai o ddiddordeb iddyn nhw.
(v) Ystyried ffyrdd arloesol i gefnogi grwpiau cymunedol drwy annog defnydd o gyfleusterau’r Cyngor, er enghraifft llyfrgelloedd a hybiau ar gyfer Dydd Mercher Llesiant;
(vi) Annog ysgolion, colegau a phrifysgolion i greu diwylliant sy'n gwirfoddoli ymhlith eu myfyrwyr er mwyn mynd i’r afael a’r blwch rhwng y cenedlaethau ac annog ymgysylltiad a chyfranogiad.
Pleidleisiwyd ar y Cynnig Terfynol. PASIWYD y Cynnig Terfynol.
Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/01/2018 - Cyngor
Dogfennau Cefnogol: