Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Datganiad yr Arweinydd
Atebodd yr Arweinydd gwestiynau ar ei ddatganiad mewn perthynas â’r Fargen Ddinesig, buddsoddiad Llywodraeth y DU, Hinckley Point a thrwydded Morol ar gyfer gwaredu deunydd agregau a mentrau Ymgysylltu â Staff.
Datganiad yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd
Atebodd yr Aelod Cabinet i gwestiynau ar Cymorth i Deuluoedd, a chymorth a ddarperir gan yr Hyb Diogelu Amlasiantaethol (MASH).
Datganiad yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant
Atebodd yr Aelod Cabinet gwestiynau ar Ddinas Deall Demensia, ac roedd yn falch o adrodd bod y Cyngor wedi llwyddo i gael Statws Dinas Deall Demensia.
Datganiad yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth
Atebodd yr Aelod Cabinet gwestiynau ar waith Trydanu Llundain i Gaerdydd ym Mhont Splott Road a chynlluniau wrth gefn; Cyfnewidfa Drafnidiaeth Ysbyty Athrofaol Cymru, mannau parcio; Parcio a Theithio ar ddydd Sul; a ‘Next-bike’ y cynllun llogi beics ar stryd newydd.
Datganiad yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddiad a Datblygiad
Atebodd yr Aelod Cabinet gwestiynau ar Adeiladu Mwy o Swyddi a Swyddi Gwell yng Nghaerdydd; ac Uwchgynhadledd Twf Hafren.
Datganiad yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant ac Hamdden
Atebodd yr Aelod Cabinet gwestiynau ar Chwaraeon ac Ymarfer Corff; Ysgolion yr 21ain Ganrif; a Lleoliadau Celfyddydol megis Neuadd Dewi Sant.
Datganiad yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau
Gan nad oedd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet yn bresennol, atebodd yr Arweinydd gwestiynau ar gyllid Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Datganiad yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad
Atebodd yr Aelod Cabinet gwestiynau ar wefan y Cyngor, Parth Cynllunio; a chyflwyno eithriad y Dreth Gyngor i bobl sy'n gadael gofal.
Datganiad yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau
Atebodd yr Aelod Cabinet gwestiynau ar Ddiwygio Lles - Credyd Cynhwysol; Gwirfoddoli yng Nghaerdydd; a gwaith parhaus ar Gysgwyr Stryd yng Nghaerdydd.
Datganiad yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd
Atebodd yr Aelod Cabinet gwestiynau ar dipio anghyfreithlon a gorfodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/01/2018 - Cyngor
Dogfennau Cefnogol: