Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Mae Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant yn ystyried ei opsiynau strategol ar gyfer y dyfodol, ac yn benodol, cysylltiad agosach â’r Cyngor.
Bydd yr adroddiad yn amlinellu ac yn egluro’r goblygiadau, y manteision a’r peryglon i’r Cyngor.
PENDERFYNWYD: rhoi awdurdod i'r Cyfarwyddwr Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i:
1. Ymateb i Gorff Llywodraethu Coleg Dewi Sant ac Archesgobaeth Caerdydd yn cadarnhau cefnogaeth y Cyngor i’w cynnig i newid statws y Coleg i statws Ysgol GG;
2. Ymgymryd â’r diwydrwydd dyladwy angenrheidiol ac, yn seiliedig ar gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, hwyluso newid statws Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir.
Rhesymau eraill / sefydliadau a ymgynghorwyd
Ymgynghoriad wedi ei gynllunio gan Goleg Dewi Sant;
· Staff, Undebau Llafur, Rhieni a Disgyblion yng Ngholeg Chweched Dosbarth Dewi Sant
· Ysgolion uwchradd a cholegau Caerdydd
· Llywodraeth Cymru
Awdurdodau Lleol cyfagos eraill
Dyddiad cyhoeddi: 18/01/2018
Dyddiad y penderfyniad: 18/01/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/01/2018 - Cabinet
Effeithiol O: 31/01/2018
Dogfennau Cefnogol: