Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Diben yr adroddiad yw:
PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo blaenoriaethau strategol ADY Caerdydd, 2018-22:
· Blaenoriaeth Un:
· Gwella canlyniadau dysgwyr ag anghenion ychwanegol drwy weithredu’r Ddeddf Tribiwnlys ADY ac Addysgol yn llwyddiannus. Blaenoriaeth Dau:
Gwella canlyniadau dysgwyr gydag anghenion ychwanegol drwy gryfhau ein capasiti ar y cyd i fodloni’r holl anghenion.
· Blaenoriaeth Tri:
Gwella canlyniadau dysgwyr gydag anghenion ychwanegol drwy sicrhau darpariaeth dysgu ychwanegol digonol ac o safon
2. Awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar y cynigion canlynol:
a) Ateb y galw am leoedd cynradd ac uwchradd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr ag anableddau dysgu cymhleth neu gyflyrau ar y sbectrwm awtistig, cynigir
· Cynyddu’r nifer dynodedig o leoedd T? Gwyn i 198;
· sefydlu 3 dosbarth ychwanegol drwy addasu hen adeilad Canolfan Ieuenctid Trelai, sydd wedi’i leoli yng nghefn yr ysgol
a) Er mwyn ateb y galw am leoedd cynradd ac uwchradd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth, cynigir:
· ehangu ystod oedran Ysgol The Hollies o 4-11 i 4-14
· cynyddu’r nifer dynodedig i 138
· cynnig llety ychwanegol drwy adfywio’r llety ysgol y bydd Ysgol Glan Morfa yn ei adael
b) Er mwyn ateb y galw ar gyfer lleoedd ôl-16 ar gyfer iechyd a llesiant emosiynol, cynigir
· ehangu ystod oedran Greenhill o 11-16 i 11-19 a
· ehangu capasiti’r ysgol i gynnig hyd at 64 o leoedd.
c) Er mwyn ateb y galw am leoedd cynradd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr ag anableddau dysgu cymhleth CSA, cynigir
· newid dynodiad Ysgol Meadowbank o:
‘namau ieithyddol penodol’, i: ‘anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu ac anableddau dysgu cymhleth’
d) Er mwyn ateb y galw am leoedd ymyrraeth gynnar ar gyfer anghenion iaith a lleferydd, cynigir
· Cau’n raddol y CAA yn Ysgol Allensbank, gan gau’r dosbarth yn gyfan gwbl ym mis Gorffennaf 2020, neu pan fydd yr holl ddisgyblion presennol wedi cwblhau’r lleoliad cynradd os yw’n gynt na hynny.
· Agor dosbarth ymyrraeth gynnar ag 8 lle i blant ag anghenion iaith a lleferydd yn Ysgol Allensbank, gan dderbyn y cohort cyntaf ym mis Medi 2019.
e) Er mwyn ateb y galw am leoedd cynradd mewn canolfannau adnoddau arbenigol i ddysgwyr ag anableddau dysgu cymhleth, cynigir
· agor canolfan adnoddau arbenigol (CAA) yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Fair y Forwyn, ar gyfer hyd at 20 o blant.
f) I ateb y galw am leoedd CAA cynradd ar gyfer plant ag anableddau dysgu cymhleth a chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yn y sector cyfrwng Cymraeg, cynigir
· agor canolfan adnoddau arbenigol yn Ysgol Pwll Coch, gan gynnig hyd at 10 o leoedd i ddechrau, ond gyda sgôp i ehangu i 20 o leoedd yn y dyfodol, wrth i’r galw gynyddu.
g) I ateb y galw am leoedd CAA uwchradd ar gyfer plant ag anableddau dysgu cymhleth a chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yn y sector cyfrwng Cymraeg, cynigir:
· ehangu’r nifer dynodedig yn nghanolfan adnoddau arbenigol Ysgol Glantaf i hyd at 30 o leoedd
· ehangu a gwella’r llety presennol ar gyfer y CAA
3. y bydd swyddogion yn dod ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol i geisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 18/01/2018
Dyddiad y penderfyniad: 18/01/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/01/2018 - Cabinet
Effeithiol O: 31/01/2018
Dogfennau Cefnogol: