Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Dod â’r strategaeth gaffael ar gyfer y Cerbydau Casglu Gwastraff (CCG) yn ôl i geisio cymeradwyaeth ar gyfer y dull caffael yn sgil adroddiad Cabinet mis Medi oedd yn amlinellu gofynion y fflyd nesaf. (Medi 2017)
Yn ogystal, ceisio cymeradwyaeth i symud ymlaen i’r gwaith caffael nesaf o ddau faes fflyd eraill o fewn Gwastraff a Glanhau i sicrhau dull holistig i'n gofynion fflyd newydd;
.PENDERFYNWYD:
1. nodi cynnwys yr adroddiad
2. cymeradwyo’r dull caffael a meini prawf gwerthuso lefel uchel y cerbydau Casgliadau Gwastraff Ailgylchu Newydd, y cerbydau rholio ar-oddi ar, a'r cerbydau ysgubwyr mecanyddol;
3. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr priodol mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet i a) cymeradwyo dechrau’r gwaith caffael a chyflwyno dogfennaeth; a b) ymdrin yn gyffredinol â phob agwedd ar y broses gaffael a'r materion cysylltiedig yn ymwneud â'r contract, gan gynnwys dyfarnu’r contract.
Rhesymau eraill / sefydliadau a ymgynghorwyd
Gweithdy manyleb cerbydau i alluogi ymgynghori‘n lleol â’r gweithlu a’r undebau llafur.
Dyddiad cyhoeddi: 18/01/2018
Dyddiad y penderfyniad: 18/01/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/01/2018 - Cabinet
Effeithiol O: 31/01/2018
Dogfennau Cefnogol: