Yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf 2021, awdurdododd Cabinet y Cyngor swyddogion i ymgynghori ar gynigion i gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Pentyrch o tua 0.7DM (140 o leoedd) i 1DM (210 o leoedd), ac i estyn ystod oedran yr ysgol o 4-11 i 3-11, o fis Medi 2023.
Nodwyd y byddai swyddogion yn dod ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol i geisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r farn a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ynghyd ag argymhellion ar sut y dylid bwrw ymlaen.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 14/01/2022
Angen Penderfyniad: 10 Maw 2022 Yn ôl Cabinet