Manylion y mater

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion: Darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Cymhleth a Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth

Yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf 2021, awdurdododd Cabinet y Cyngor swyddogion i ymgynghori ar gynigion i sefydlu canolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Moorland.

 

Yn ei gyfarfod ar 14 Hydref 2021, awdurdododd Cabinet y Cyngor swyddogion i ymgynghori ar amrywiaeth o gynigion i ehangu darpariaeth ysgol arbennig ac i sefydlu neu ehangu Canolfannau Adnoddau Arbenigol ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Cymhleth a Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth.

 

Nodwyd y byddai swyddogion yn dod ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriadau i gyfarfod yn y dyfodol i geisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. 

  

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r farn a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriadau, ynghyd ag argymhellion ar sut y dylid bwrw ymlaen.

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 14/01/2022

Angen Penderfyniad: 10 Maw 2022 Yn ôl Cabinet

Eitemau Agenda