Yn unol ag Adran 89 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a Rheoliadau Addysg (Penderfynu ar Drefniadau Derbyn) 2016, mae angen i’r Cyngor adolygu’r polisi Derbyn i Ysgolion bob blwyddyn.
Fel rhan o hyn, mae'r Cyngor wedi ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i Bolisi Derbyn i Ysgolion 2023/24. Mae'r newidiadau'n cynnwys y bwriad i ehangu trefniadau derbyn cydlynol i ysgolion cynradd ledled y ddinas.
Rhaid penderfynu ar Drefniadau Derbyn i Ysgolion er mwyn eu rhoi ar waith ym mis Medi 2022
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r farn a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ynghyd ag argymhellion ar sut y dylid bwrw ymlaen.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 14/01/2022
Angen Penderfyniad: 10 Maw 2022 Yn ôl Cabinet