English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y mater

Diweddariad ar Reoliadau Llywodraeth Cymru i Sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a Newidiadau Canlyniadol i Gyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Diben yr adroddiad yw:

(i)      Rhoi diweddariad i'r Aelodau ar gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CbCau) fel y darperir ar eu cyfer yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

(ii)     Ystyried Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru 2021 a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021, yngl?n â sefydlu a gweithredu CbCau, gyda'r swyddogaethau lles economaidd, trafnidiaeth a chynllunio strategol yn dod i fodolaeth ar 28 Chwefror 2022; ac

(iii)    Ystyried Adroddiad Cabinet Cyd-bwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) sy'n nodi sut y bydd swyddogaethau'r Cydbwyllgor presennol yn cael eu trosglwyddo i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru (CbC) ar 1 Mawrth 2022.

(iv)    Nodi’r argymhellion o ran hyn a'r camau nesaf yn ymwneud â gweithredu'r CBC a'r trefniadau newydd a fydd yn cael eu hadrodd i'r Cyngor i gael rhagor o wybodaeth a, lle y bo'n berthnasol, cymeradwyaeth, yn ystod y misoedd nesaf.

 

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 08/10/2021

Angen Penderfyniad: 20 Ion 2022 Yn ôl Cabinet

Prif Aelod: Arweinydd y Cyngor

Prif Gyfarwyddwr: Prif Weithredwr

Scrutiny Consideration: Green/Gwyrdd

Eitemau Agenda

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.