Manylion y mater

Map Ffordd Dinas Glyfar Caerdydd

I gael awdurdod y Cabinet i gymeradwyo Map Ffordd Dinas Glyfar Terfynol Caerdydd.

Cyhoeddwyd Map Ffordd Dinas Glyfar drafft Cyngor Caerdydd ym mis Rhagfyr 2019 a daeth y cyfnod ymgynghori i ben ym mis Mawrth 2020, a oedd yn cyd-daro â mesurau iechyd cyhoeddus COVID-19.

 

Mae'r Map Ffordd wedi'i ail-ysgrifennu i ystyried yr adborth o'r ymgynghoriad ynghyd ag effeithiau'r pandemig.

 

Mae Map Ffordd Dinas Glyfar Caerdydd yn cyd-fynd yn agos â chanlyniadau cynlluniau a strategaethau cyhoeddedig y Cyngor megis yr Uchelgais Prifddinas, y Strategaeth Adfer Dinas, y Strategaeth Ddigidol a'r Strategaeth Drafnidiaeth.  Fe'i cynlluniwyd i ychwanegu gwerth a 'phontio’r bylchau' yn y ddarpariaeth o ran gwasanaethau ar hyn o bryd.

Math o fusnes: Key

Statws: wedi'u gadael

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 30/07/2021

Angen Penderfyniad: 18 Tach 2021 Yn ôl Cabinet