Yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2017, ystyriodd Cabinet y Cyngor adroddiad yn nodi cynlluniau blaenoriaeth y Cyngor i'w cynnal fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B Caerdydd.
Mae'r blaenoriaethau'n cynnwys cynnig i ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows fel ysgol uwchradd 11-16 newydd gyda 6 dosbarth mynediad (6DM).
Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynnig, byddai ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd yn cael ei gynnal er mwyn rhoi cyfleoedd i bartïon â diddordeb ddysgu mwy am yr hyn sy'n cael ei gynnig a rhannu eu barn ynghylch sut orau y gellid datblygu'r ysgol i gynrychioli a darparu ar gyfer anghenion y cymunedau lleol y mae'n eu gwasanaethu.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 30/07/2021
Angen Penderfyniad: 23 Medi 2021 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes
Scrutiny Consideration: Amber/Ambr