English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y mater

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion: Ysgolion yr 21ain Ganrif: Ehangu ac ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cathays

Yn ei gyfarfod ar 17 Mehefin 2021, cymeradwyodd y Cabinet, yn unol â thelerau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), argymhelliad ar gyfer cyhoeddi hysbysiad statudol i:

 

·         Gynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Cathays o 1,072 o leoedd (5.5 Dosbarth Mynediad gyda 247 lle yn y chweched dosbarth) i 1,450 o leoedd (8 Dosbarth Mynediad gyda 250 lle yn y chweched dosbarth), o fis Medi 2023

 

·         Codi adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays ar safle Canolfan y Maendy ger Ffordd y Goron a Heol y Gogledd

·         Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) bresennol i ddysgwyr sydd â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig o 16 o leoedd i 50 o leoedd mewn gofod pwrpasol yn adeiladau’r ysgol newydd

Cyhoeddwyd yr hysbysiadau statudol ar 29 Mehefin am gyfnod o 28 diwrnod i roi cyfle i wrthwynebiadau.  Daeth cyfnod yr hysbysiad statudol i ben ar 26 Gorffennaf 2021.  

 

Diben yr adroddiad yw rhoi gwybod i'r Cabinet am unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd, ymateb y Cyngor i'r gwrthwynebiadau a'r argymhellion hyn ar gyfer gweithredu’r cynnig ai peidio

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 30/07/2021

Angen Penderfyniad: 14 Hyd 2021 Yn ôl Cabinet

Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau

Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes

Scrutiny Consideration: Amber/Ambr

Eitemau Agenda

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.